Pentref a chymuned tua dwy filltir i'r de o ben deheuol Llyn Tegid ym Meirionnydd, Gwynedd yw Llanuwchllyn (ynganiad). Mae'n sefyll oddi ar yr A494, 5 milltir i'r de-orllewin o'r Bala, yn rhimyn hir ar hyd y B4403. Adnabyddir y pen gogleddol fel 'Y Llan' a'r pen deheuol fel 'Y Pandy'. Mae'r gofgolofn i O.M. Edwards a'i fab Ifan yn sefyll wrth y briffordd o flaen Ysgol O. M. Edwards yr ysgol gynradd leol.
Ceir sawl afon yn y cyffiniau gan gynnwys Afon Lliw sy'n llifo i'r Ddyfrdwy am ryw hanner milltir cyn aberu yn Llyn Tegid ger Glan-Llyn Isa. Daw'r Twrch o'r de, gan hollti'r pentre'n ddwy ran 'Llan' a 'Phandy'.
Yr eglwys
Yn eglwys Deiniol Sant ceir set o hen lestri cymun efydd, a berthynai, meddir, i Abaty Cymer. Nid yw'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn hen (cafodd ei adnewyddu yn 1873), ond gellir gweld beddfaen cerfiedig hynod y marchog Ieuan ap Gruffudd yno, a fu farw yn 1370 a chofeb i John ap Gruffydd ap Madoc ap Iorwerth o Lanllyn, dyddiedig 1395. Ceir hefyd llech-gofeb er cof am Rowland Vaughan (c. 1587 - 1667), y bardd a'r cyfieithydd o Gaer Gai ( sy'n sefyll rhwng y pentref a'r Bala). Fe'i codwyd mewn steil Gothig ar gost o £1,600.[1]
Enwogion
Mae'r ardal wedi cynhyrchu nifer syfrdanol o enwogion, yn arbennig felly ym maes llenyddiaeth, gan gynnwys:
Osian Williams (1990 -) Enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlathol Maldwyn a'r Cyffiniau a phrif leisydd y band Candelas
MC Mabon - (Enw iawn Gruff Meredith) rapiwr a ddaeth i amlygrwydd a bri fel aelod o’r grŵp Y Tystion. Yn flaenllaw yn yr ymdrechion llwyddiannus i adfer papur newydd Y Cymro yn 2018.
Digwyddiadau tywydd cofiadwy
Llif mawr 1781
”Onibai am lifogydd mawr 1781 yn ardal Llanuwchllyn a Chwm Cynllwyd, mae’n debyg na fuaswn i’n bod! Daeth fy hen, hen, hen daid, Evan Evans, oedd yn saer pontydd, drosodd o sir Drefaldwyn i Lanuwchllyn i drwsio ac ailadeiladu pontydd a ddifrodwyd gan y llif. Setlodd a phriododd yn yr ardal. Roedd ei farc (EE) ar garreg gloi hen bont a ddiflannodd rhyw 30 mlynedd yn ôl pan sythwyd y ffordd rhwng Garneddwen a Llanuwchllyn”.[2]
”A minnau wedi byw a gweinidogaethu yn Llanuwchllyn o 1967 i 1992, diddorol oedd y sôn am Li Mawr 20 Mehefin 1781 ar ddiwrnod Ffair y Llan, a'r nodyn gan Llŷr Gruffudd am Evan Evans un o'i hynafiaid yn croesi'r Berwyn o Lanwddyn i Lanuwchllyn i ailadeiladu'r pontydd a sgubwyd ymaith. Roedd Sali Jones oedd yn cadw siop yn y Bala ac a ddaeth yn wraig i Thomas Charles, ar ei ffordd adref o'r Ffair pan wrthododd ei cheffyl fynd dros Bont y Pandy funudau cyn i afon Twrch ei chwalu. Pe byddai Sali wedi boddi ni fyddai Thomas Charles wedi dod i'r Bala ac mae'n bosibl na fyddai Ysgol Sul na Chymdeithas y Beibl wedi dod i fodolaeth. Un o ysgrifau enwog O M Edwards, a faged yn sŵn afon Twrch, yw:
”Yr Hen Fethodist, sef hen gloc ei hynafiaid ym Mhen y Geulan ger Pont y Pandy, a gafodd ei ddarganfod yn nofio ar Lyn Tegid wedi'r lli. Fe'i hachubwyd a'i ddychwelyd i'r hen gartref lle bu'n cadw'r amser am genedlaethau.”
Ynglŷn â'r wraig a gollodd ei bywyd pan foddwyd ei chartref yn y Ceunant Ucha, Cwm Peniel (Cwm Llwyngwern codi'r Peniel cyntaf ym 1828) holwyd ei gŵr pam ei fod yn mynd i fyny yn lle i lawr i chwilio amdani. 'Am ei bod yn gwneud pob dim yn groes i bawb', oedd yr ateb.”[3]
Llif 1880
Ym 1880 cafwyd Lli arall a chwalodd Bont y Llan - y bont dros y Ddyfrdwy, a bu difrod mawr fel ym 1781.[3]
Llif 2001
Ar 3 Gorffennaf 2001 cafwyd Lli arall pan orlifodd afon Lliw ym Mhennantlliw a pheri cryn ddifrod.[3]
↑Hanesyn Llyr Gruffydd, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54
↑ 3.03.13.2Hanesyn WJ Edwards, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.