Afon Dugoed

Afon Dugoed
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.701873°N 3.61479°W Edit this on Wikidata
Map

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Dugoed (hefyd Afon Cleifion). Mae'n un o lednentydd chwith Afon Dyfi. Ei hyd yw tua 5 milltir.

Cwrs

Mae Afon Dugoed yn tarddu ym mryniau Maldwyn, Powys tua hanner ffordd rhwng Llangadfan (Powys) a Mallwyd (Gwynedd). Llifa i gyfeiriad y gorllewin gyda'r briffordd A548 ar ei glannau.[1]

Llifa sawl ffrwd i'r afon. Ei phrif lednant yw Afon Tafolog sy'n llifo drwy Gwm Tafolog i gyfeiriad y gogledd gan lifo i Afon Dugoed tua 2 filltir o Fallwyd. Mae un o'r ffrydiau sy'n llifo i Afon Tafolog a'i tharddle yn Llyn Coch-hwyad.[1]

Llednentydd

  • Afon Clywedog
  • Nant Saeson
  • Afon Tafolog

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 125.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia