Hugh Jones
Emynwr, awdwr, bardd a chyfieithydd oedd Hugh Jones (tua Hydref 1749 - 16 Ebrill 1825), y cyfeirir ato'n aml fel Hugh Jones o Faesglasau. GyrfaGanwyd Hugh yn fab i William ac Elisabeth Jones yn eu tyddyn o'r enw Maesglasau, yng nghysgod Craig Maesglasau, plwyf Mallwyd, ger Dinas Mawddwy. Mae dyddiad ei eni yn anhysbys, ond cafodd ei fedyddio ar 24 Tachwedd, 1749. Cafodd ei addysg elfennol gan gurad y plwyf. Aeth i Lundain lle cafodd swydd fel athro ysgol cynorthwyol. Ni arosodd yno'n hir a daeth adref yn 1774 i fugeilio ym Maesglasau. Yn ddiweddarach bu'n cadw ysgol yn Sir Feirionnydd (Dinas Mawddwy, Abercywarch, Mallwyd) a Sir Drefaldwyn. Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd fel athro treuliodd weddill ei oes fel cyfieithydd yng ngwasanaeth cyhoeddwyr gogledd Cymru, yn cynnwys Richard Jones, Dolgellau, Lewis Evan Jones, Caernarfon, a Thomas Gee'r hynaf (tad Thomas Gee) yn Ninbych. Bu farw ar 16 Ebrill, 1825, ac fe'i claddwyd ym mynwent Henllan, ger Dinbych. Gwaith llenyddolGwaith cyntaf Hugh Jones yw ei lyfr mwyaf adnabyddus o lawer, sef Cydymaith i'r Hwsmon, a gyhoeddwyd ganddo yn Llundain yn 1774. Cyfres o fyfyrdodau gan Gristion ar y pedwar tymor a bywyd yr hwsmon yw'r llyfr. Er bod yr awdur yn tynnu nifer o foeswersi Beiblaidd mae'r gyfrol fechan yn cynnwys enghreifftiau o ryddiaith gaboledig ac arddull naturiol gyda gorau'r ganrif. Dyma ran o'i ddisgrifiad o'r Gaeaf, er enghraifft:
Mae ei weithiau rhyddiaith eraill yn cynnwys cyfieithiad o waith Josephus (1,200 tudalen) ac Y Byd a Ddaw o waith y Dr Isaac Watts. Fel bardd ac emynydd fe'i cofir yn bennaf am ei emyn 'O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn', a ddisgrifwyd gan O. M. Edwards fel "yr emyn gorau yn yr iaith Gymraeg." Cyhoeddodd yn ogystal ddwy gyfrol o gerddi ac emynau, Gardd y Caniadau (1776) a Hymnau Newyddion (1797). Dywedir fod Hugh Jones wedi ymddiddori yn yr anterliwtiau yn ei ieuenctid ac wedi ysgrifennu rhai, ond nid oes yr un i'w cael heddiw. Yn ôl yr hanes trôdd ei gefn arnynt dan ddylanwad Methodistiaeth. Llyfrau Hugh Jones (detholiad)
Ffynonellau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia