Charles Ashton
Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig hunanddysgedig oedd Charles Ashton (4 Medi 1848 – 13 Hydref 1899). Roedd yn frodor o Sir Drefaldwyn (gogledd Powys heddiw), a aned yn Llawr-y-glyn. CefndirRoedd Ashton yn blentyn gordderch, yn fab i Elizabeth Ashton, cafodd ei fagu ar aelwyd ei daid, Charles Asheton, saer maen, Ty'nysarn, Llawr y Glyn[1] GyrfaYm more ei oes gweithiodd fel mwynwr yng ngwaith plwm Dylife ac yna ar y rheilffordd, cyn mynd yn heddwas. Ym 1869 ymunodd â Heddlu Meirionnydd gan wasanaethu am gyfnod o chwarter canrif. Gwasanaethodd ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Dolgellau, fe'i codwyd i reng sarsiant yn Nolgellau a bu sôn am ei godi i swydd arolygydd, ond ychydig ddyddiau cyn ei gyfweliad am swydd yr arolygydd cafwyd ef yn feddw ar ddyletswydd, ac yn hytrach na'i ddyrchafu cafodd ei israddio i swydd cwnstabl, gan wasanaethu fel cwnstabl Dinas Mawddwy hyd ei ymddeol[2]. Yno daeth yn gyfaill i'r ysgolhaig Daniel Silvan Evans, ficer y plwyf ar y pryd. Mae llyfr O. M. Edwards, Tro Trwy'r Gogledd, yn cynnwys adroddiad o enau Ashton ei hun am yr amgylchiadau a arweiniodd at ei israddio i swydd cwnstabl Dinas Mawddwy:—
Cyfraniad llenyddolYsgrifennodd Charles Ashton erthyglau i sawl cylchgrawn Cymraeg fel Yr Haul. Ymroddodd i astudio hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gymryd diddordeb arbennig yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr a llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd olygiad o waith Iolo Goch (sy'n wallus yn ôl safonau ysgolheictod heddiw ond yn waith arloesol ar y pryd). Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol ar fywyd William Morgan. Ond ei gampwaith fawr, llafur ei oes, yw'r gyfrol swmpus Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650–1850, sy'n llawn manylion am lên a llenorion y cyfnod hwnnw; enillodd y gyfrol wobr iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 1891 ac fe'i cyhoeddwyd gan lys yr Eisteddfod. PriodasYm 1871 priododd Ashton a Jennet Williams, ni fu iddynt blant. Roedd y briodas yn un anhapus, nid oedd Mrs Ashton yn gefnogol i'r amser a'r arian roedd ei gŵr yn gwario ar ei ymchwil llenyddol ac roedd ef yn ei churo hi, ac wedi mynegi mewn llythyrau ei dymuniad i'w wraig marw er mwyn iddo gael priodi ei feistres.[4] MarwolaethAr 13 Hydref 1899 ymosododd Ashton ar ei wraig gydag ellyn (rasel hen ffasiwn, debyg i gyllell miniog), llwyddodd Mrs Ashton i ffoi at heddgeidwad cyfagos am gynhorthwy. Wedi gweinyddu ar glwyfau Mrs Ashton aeth yr heddgeidwad i chwilio am Charles a'i ganfod yng nghegin ei dŷ wedi marw drwy hunanladdiad trwy ddefnyddio'r ellyn i dorri ei wddf [5]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Mallwyd[6] Yn ei ewyllys gadawodd y rhan fwyaf o'i ystâd i'w feistres Martha Hughes, athrawes yn ysgol Dinas Mawddwy, a mam plentyn iddo. Aflwyddiannus bu achos llys gan weddw Ashton i wyrdroi'r ewyllys[7]. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia