Clwb Rygbi Abertawe
Mae Clwb Rygbi Abertawe yn dîm rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn Prifadran Cymru. Mae'r clwb yn chwarae ar Faes Rygbi a Chriced St Helen yn Abertawe ac fe'u gelwir hefyd Y Crysau Gwynion gan gyfeirio at liw eu cit cartref a'r Jacs, llysenw am bobl o Abertawe. HanesSefydlwyd y clwb ym 1872 [2] fel tîm pêl-droed y gymdeithas, gan newid i'r côd rygbi ym 1874. Ym 1881 daeth yn un o'r 11 o glybiau sylfaen Undeb Rygbi Cymru . [3] [4] ![]() Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd CyntafYn gynnar yn yr ugeinfed ganrif roedd Clwb Rygbi Abertawe yn glwb hynod lwyddiannus. Am bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898/99 hyd dymor 1901/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Dyma oedd cyfnod anterth seren gyntaf Abertawe, Billy Bancroft O dan gapteiniaeth Frank Gordon byddai'r tîm yn ddiweddarach yn mynd ar rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn ymddangos nad oedd Abertawe yn cael chware teg gan ddewiswyr rhyngwladol Cymru. O ystyried eu llwyddiant ar lefel clwb, prin oedd y rhai a dewiswyd i chwarae i Gymru yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â chlybiau eraill. Aeth Frank Gordon heb gap trwy gydol ei yrfa. Ar wahân i Billy Trew, Dick Jones a Dicky Owen, yr unig chwaraewyr rhyngwladol eraill yn y tîm oedd y blaenwr Sid Bevan (1 cap), [5] yr asgellwr Fred Jowett (1 cap) [6] a'r maswr Phil Hopkins (4 cap). [7] Roedd Trew (29 cap) yn ganolwr rhagorol a gafodd ei derbyn fel un o'r chwaraewyr pwysicaf yn esblygiad rygbi Cymru, [1] tra bod Dicky Owen (35 cap), yn dactegydd anhygoel. [8] Ar ôl y rhyfel hyd y 1990auDim ond llwyddiant cyfyngedig a ddaeth yn ystod y blynyddoedd uniongyrchol ar ôl y rhyfel, er y cafwyd gêm gyfartal nodedig o 6 phwynt yr un yn erbyn Seland Newydd ym 1953 ac yna buddugoliaeth o 9-8 yn erbyn Awstralia ym 1966. Bu'n rhaid disgwyl hyd dymor canmlwyddiant y clwb ym 1973/74, i ddod i frig y Tabl Teilyngdod. Cafodd Abertawe lwyddiant pellach fel pencampwyr y clybiau ym 1979/80, 1980/81, 1982/83 yn ogystal â bod yn enillwyr cwpan Cymru ym 1978. Ymhlith y chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwn roedd Clem Thomas, Billy Williams, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel, David Richards a Mark Wyatt, deiliad record sgoriwr pwyntiau'r clwb gyda 2,740 o bwyntiau wedi'u sgorio rhwng 1976/77 a 1991/92. 1990 i ddiwedd y mileniwmGwelodd y 1990au lwyddiant i'r clwb, gan gynnwys bod yn bencampwyr y brifadran ar 4 achlysur (1991/92, 1993/94, 1997/98 a 2000/01) ac enillwyr cwpan Cymru ym 1995 a 1999. Cofnodwyd buddugoliaeth gofiadwy 21-6 dros bencampwyr y Byd, Awstralia, ar Faes St Helen ar 4 Tachwedd 1992. Yn nhymor 1995/96 fe gyrhaeddodd Abertawe gam rownd cynderfynol Cwpan Ewrop. Roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys anghydfodau ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y ffordd yr oedd strwythur y gynghrair yn cael ei redeg yng Nghymru yn dilyn troi rygbi'r undeb i fod yn gêm broffesiynol, a ddaeth i ben gyda'r clwb yn gwrthod bod yn rhan o'r gynghrair yn nhymor 1998/99. [9] Ers dechrau'r MileniwmRoedd tymor 2003/04 yn un lle gwelwyd newid sylweddol gyda chyflwyniad rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae Clwb Rygbi Abertawe Cyf, â Chlwb Rygbi Castell-nedd yn gydberchnogion tîm rhanbarthol y Gweilch. O ganlyniad, dychwelodd Clwb Rygbi Abertawe i fod yn dîm amatur. Ers y newid i rygbi rhanbarthol mae sawl chwaraewr wedi chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, yn ogystal â'r Gweilch a Chymru gan gynnwys Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Scott Baldwin, Nicky Smith, Matthew Morgan, Eli Walker, Gavin Henson a Dan Biggar. Yn 2014 cafodd yr Y Crysau Gwynion eu gostwng o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor, er gwaethaf curo Castell-nedd yn St Helen. Bu pwynt bonws i Aberafan yn ddigon i ddanfon Abertawe i lawr i Bencampwriaeth SWALEC. Ysgogodd hyn ailwampiad llwyr o’r clwb gyda Stephen Hughes yn cymryd swydd y Cadeirydd, Keith Colclough yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Richard Lancaster yn arwain tîm hyfforddi o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Rhodri Jones, Chris Loader a Ben Lewis. Yn eu tymor cyntaf fe fethodd Abertawe ennill dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair, gan orffen yn yr ail safle. Ond o ganlyniad i newid strwythur y cynghrair fe'u dyrchafwyd yn nhymor 2015/16 gyda Merthyr, RGC 1404 a Bargoed. Cafodd Abertawe drafferth i addasu i’r Uwch Gynghrair yn eu dau dymor cyntaf yn ôl ar yr haen uchaf er gwaethaf rhestr anafiadau llethol, dangosodd tymor 1917/18 lawer o addewid gyda’r ochr yn recordio pum buddugoliaeth, gêm gyfartal a 10 pwynt bonws am golli’r gêm o fewn 7 pwynt. Bu'n rhaid gohirio tymor 2019/20 a 2020/21 oherwydd COVID-19 Merched Clwb Rygbi AbertaweAr gyfer tymor 2016/17 sefydlwyd tîm Merched Clwb Rygbi Abertawe ac ers hynny maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn. Yn 2019 fe wnaethant ennill Cwpan y Merched am y trydydd tymor yn olynol. Maent hefyd yn darparu craidd o chwaraewyr i garfan merched Cymru. [10]
LlwyddiannauTrechodd Clwb Rygbi Abertawe Seland Newydd 11-3 ddydd Sadwrn 28 Medi 1935, gan ddod yr ochr clwb gyntaf erioed i guro'r Crysau Duon. [11] Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd eu gwneud y tîm clwb cyntaf i guro pob un o'r tri thîm teithiol mawr i Brydain. Roeddent eisoes wedi curo Awstralia ym 1908 a De Affrica ym 1912. [12] Ym mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21–6, pan chwaraeodd Awstralia eu gêm gyntaf o’u Taith Gymreig. Pencampwyr Prifadran Cymru yn:
Pencampwyr Cwpan Her URC yn:
Pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn:
Pencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn:
Llewod Prydeinig a GwyddeligDewiswyd y cyn-chwaraewyr canlynol ar gyfer sgwadiau teithiol Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.
Capteiniaid Rhyngwladol CymruBu'r cyn-chwaraewyr canlynol yn gapten ar dîm undeb rygbi cenedlaethol Cymru wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.
Cyn-chwaraewyr nodedig eraillMae'r chwaraewyr a restrir isod wedi chwarae i Abertawe a hefyd wedi chwarae rygbi rhyngwladol.
Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia