Phil Hopkins
Roedd Phil Hopkins (31 Ionawr 1880 - 26 Medi 1966) [1] yn asgellwr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe. Enillodd bedwar cap i Gymru a chafodd dylanwad pwysig ar y tîm a enillodd Y Goron Driphlyg ym mhencampwriaeth 1909. Bywyd personolGanwyd Philip Lewis Hopkins yn Llangyfelach, yn drydydd blentyn i Evan Hopkins, swyddog adfer, a Catherine (née John) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Golegol Pontardawe a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel rheolwr gwaith tunplat. Ym 1913 priododd Maud Stanhope, merch Mr a Mrs. Stanhope, Cas-gwent.[2] Bu farw yn Abertawe yn 86 oed. Gyrfa rygbiChwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf ar lefel bechgyn ysgol i Ysgol Golegol Pontardawe, ac ar ôl iddo gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, bu'n aelod o dîm y coleg. Roedd yn sbortsmon amryddawn bu'n chware sawl camp i safon uchel, gan gynnwys pêl-droed, tenis a hoci. Rhwyfodd dros Brifysgol Bangor yn Henley ac roedd yn eilydd i dîm hoci Cymru a'r tîm pêl-droed amatur.[3] Ar lefel clwb, chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Pontardawe, ei dîm lleol cyn iddo symud i glwb rygbi Abertawe ym 1902[4]. Ym 1908 daeth Hopkins i'r amlwg pan wynebodd dîm teithiol cyntaf Awstralia ar dri achlysur, ar lefel clwb, sir a rhyngwladol. Ei gyfarfod cyntaf gyda'r Awstraliaid oedd pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm wahodd Sir Forgannwg . Yn y gêm, a chwaraewyd ym Mhontypridd, enillodd y twristiaid 16-3. Dau fis yn ddiweddarach, dewiswyd Hopkins ar gyfer ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm Cymru i wynebu Awstralia. Cafodd Hopkins gêm nodedig yn sgorio un o ddau gais Cymru, mewn buddugoliaeth agos.[5] Yna ar 26 Rhagfyr 1908, wynebodd Hopkins Awstralia am y tro olaf pan chwaraeodd dros Abertawe mewn buddugoliaeth hanesyddol dros y twristiaid. Chwaraeodd Hopkins nesaf i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909, a chwaraeodd mewn dwy o'r gemau, yn erbyn Lloegr ac Iwerddon. Sgoriodd Hopkins gais yn y ddwy gêm. Gyda Chymru’n curo’r tri gwrthwynebydd yn y twrnamaint, daeth Hopkins yn rhan o dîm a enillodd y Goron Driphlyg. Chwaraeodd Hopkins mewn dim ond un gêm arall i Gymru, ei gêm ryngwladol cyntaf mewn carfan a gollodd, mewn gêm oddi cartref i Loegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad 1910. Gemau rhyngwladolCymru Roedd Hopkins yn sbortsmon amryddawn, ac yn chware pêl droed y gynghrair, hoci, tenis a chriced yn ogystal â rygbi.[10] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia