Dewi Bebb
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru oedd Dewi Iorwerth Ellis Bebb (7 Awst 1938 – 14 Mawrth 1996), a enillodd tri deg pedwar o gapiau dros Gymru fel asgellwr. Ganed Dewi Bebb ym Mangor yn fab i'r hanesydd Ambrose Bebb. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn ddiweddarach yn Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Abertawe yn erbyn Llanelli yn 1958. Bu gydag Abertawe trwy gydol ei yrfa fel chwaraewr, gan chwarae iddynt 221 o weithiau, sgorio 87 cais a bod yn gapten ar y tîm yn 1963-4 a 1964-5. Gyrfa ryngwladolChwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1959, gan fynd ymlaen i ennill tri deg pedwar o gapiau rhwng 1959 a 1967 a sgorio unarddeg cais. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica yn 1962, gan chwarae yn y ddwy gem brawf, ac i Awstralia, Seland Newydd a Chanada yn 1966, unwaith eto'n chwarae ymhob un o'r gemau prawf. Athro oedd Bebb wrth ei alwedigaeth yn wreiddiol, ond yn nes ymlaen daeth yn ddarlledydd a newyddiadurwr. |
Portal di Ensiklopedia Dunia