George Hayward
Roedd George Hayward (13 Chwefror 1886 - 13 Hydref 1946) yn flaenwr rygbi'r undeb rhyngwladol Gymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe, a chafodd ei gapio dros Gymru bum gwaith. Roedd yn rhan o dîm a enillodd Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1908. Bywyd personolGanwyd Alfred George Hayward yn Abertawe, yn blentyn i Alfred Hayward, pobydd, ac Elizabeth (née Evans) ei wraig. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel llafurwr yn nociau Abertawe. Ym 1910 priododd Evelyn Davies[1], bu Evelyn marw ym 1918. Priododd Hayward am yr ail dro â Margaret E Elson ym 1924, bu iddynt o leiaf dau fab. Bu farw yn Abertawe yn 60 mlwydd oed.[2] Gyrfa rygbiGwnaeth Hayward ei ymddangosiad rhyngwladol gyntaf i Gymru ddydd Sadwrn 1 Chwefror 1908 yn erbyn yr Alban ar faes St. Helen Abertawe dan gapteiniaeth George Travers.[3] Enillodd Cymru’r ornest ddadleuol o drwch y blewyn a dewiswyd Hayward eto ar gyfer gêm nesaf y twrnamaint yn erbyn yr Iwerddon. Enillodd Cymru yr ornest, y Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg. Yn ystod 1908, wynebodd Hayward dîm teithiol Awstralia, fel aelod o dimau Sir Forgannwg ac Abertawe, gan orffen ar yr ochr fuddugol ar lefel ryngwladol a chlwb, ond gan golli yn y cyfarfyddiad sirol. Roedd hefyd yn rhan o dîm Abertawe a gurodd De Affrica ar Ddydd San Steffan 1912. Ym mis Rhagfyr 1913, gadawodd Hayward Abertawe ac ymuno â thîm proffesiynol y gynghrair, Wigan, gan wneud ei ymddangosiad gyntaf ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr yn erbyn Runcorn.[4] Chwaraeodd George Hayward ym muddugoliaethau Wigan yng Nghynghrair Sir Gaerhirfryn yn ystod tymor 1913–14 a thymor 1914–15.[5] Gemau rhyngwladolCymru[6] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia