Arthur Emyr
Cyn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol i Gymru yw Arthur Emyr Jones (ganwyd 27 Gorffennaf 1962).[1] Roedd yn asgellwr, a bu'n chwarae i glwb rygbi Abertawe lle mae'n parhau i ddal record am y sgoriwr ceisiau uchaf, a bu hefyd yn chwarae i glwb rygbi Caerdydd. Bu hefyd yn athletwr yn nhim hynaf Athletau Cymru. Ganwyd Emyr ym Mangor, Gwynedd. Enillodd 13 o gapiau i Gymru gan sgorio 4 cais rhwng 1989-1991. Roedd y Chwaraewr y Flwyddyn Cymru yn 1990. Cafodd ei ddewis ar gyfer sgwad Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 1991. Ar ôl ymddeol o chwaraeon datblygodd yrfa llwyddiannus yn y cyfryngau, i ddechrau fel cyflwynydd chwaraeon teledu ac yna fel Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru rhwng 1994 a 2001,[2][3] cyn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Pennaeth Digwyddiadau Mawr. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia