Dicky Owen
Roedd Dicky Owen (17 Tachwedd 1876 - 27 Chwefror 1932) yn mewnwr rhyngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Abertawe [2][5] Mae Owen yn cael ei ystyried yn un o'r mewnwyr gorau i chware i Gymru erioed. Enillodd 35 cap dros ei wlad rhwng 1901 a 1912, record a oedd yn ddiguro hyd 1955 pan ragorodd Ken Jones arno.[6] CefndirGaned Richard Morgan Owen yng Nglandwr, Abertawe yn fab i John Owen mwyndoddwr yn y gwaith dur ac Ellen ei wraig. Wedi derbyn addysg elfennol yn lleol aeth i weithio fel cefnwr yn y gwaith tunplat.[7] (Y gŵr sy'n casglu'r tun poeth o gefn y peiriant rolio wedi iddi gael ei doddi).[8] Gyrfa rygbiRoedd "Dicky" Owen yn un o chwaraewyr mawr Oes Aur cyntaf rygbi Cymru. Chwaraeodd mewn pum garfan a enillodd y Goron Driphlyg ac ynghyd â Gareth Edwards a Haydn Tanner mae'n cael ei gyfrif ymysg y mewnwr gorau i gynrychioli Cymru.[6] Roedd Owen yn chwaraewr rygbi arloesol, oedd yn ceisio dyfeisio tactegau a symudiadau newydd yn barhaus. Mae'n cael ei gydnabod fel datblygwr ffug ymosodiadau a deall dylanwad mewnwr yn cysylltu ag asgellwyr mewn symudiadau ymosodol.[6] Mae hefyd yn nodedig am ddosbarthu'r bêl gyflym. Symudiad roedd rai maswyr, yn enwedig Percy Bush, yn ei chael yn anodd addasu iddi. Wrth siarad ym 1927, eglurodd Owen ei athroniaeth ar chwarae mewn sgrym: Gwelwyd enghraifft o feddwl tactegol Owen yn un o'i gemau rhyngwladol cynnar yn erbyn Lloegr ym 1902. Roedd Cymru ar ei hôl hi yn y gêm heb fawr o amser yn weddill pan dwyllodd Owen ei wrthwynebydd, Bernard Oughtred, i gamsefyll ger pyst Lloegr. Gyda'r Cymry yng ngofal y sgrym ar linell 25 y Saeson, dywedodd Owen wrth ei flaenwyr, yn Gymraeg,[2] i gadw gafael ar y bêl, tra bod Owen yn plygu i lawr ac yn esgus ei chasglu. Daeth Oughtred o amgylch y sgrym i fynd i’r afael ag Owen, ond gan nad oedd y bêl gan Owen, cosbwyd y Sais am gamsefyll. Ciciodd John Strand-Jones y gic gosb, gan alluogi Cymru i ennill 9-8.[9] Ar 9 Ionawr 1904 wynebodd Cymru Loegr eto yn ystod Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Y dyfarnwr ar gyfer yr ornest honno oedd Crawford Findlay o Undeb Rygbi'r Alban. Roedd ei ddehongliad o'r rheolau mor ddryslyd bu i chwaraewyr Cymru cael eu cosbi 11 o weithiau yn yr hanner cyntaf,[10] saith o fewn ystod y gôl. Penderfynodd Owen, yn hytrach nag ildio ciciau cosb amheus bellach, i ganiatáu i'r Saeson roi'r bêl i mewn i'r sgrym hyd yn oed pan oedd yn dro Cymru i wneud hynny.[11] Gyrfa clwbDechreuodd Owen chwarae i dîm bach y Meysydd yng Nglandŵr, cyn ymuno â thîm yr Hafod. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda Hafod; wnaethant ennill Tarian Her y Gynghrair Ardal dri thymor yn olynol. Chwaraeodd gydag ail dîm Abertawe am saith gêm, cyn dychwelyd i'r Hafod. Dewiswyd ef i chwarae gyda hen Glwb Rygbi Treforys ar sawl achlysur. Wrth chwarae gyda Threforys yn erbyn Llanelli cafodd gynnig gan aelod o bwyllgor Abertawe i fod yn chwaraewr llanw am ychydig o gemau i gyflenwi ar gyfer aelod o'r tîm a anafwyd. Gan ei fod wedi creu argraff yn ystod ei gyfnod llanw arhosodd gydag Abertawe am weddill ei yrfa rygbi,[12] a bu’n gapten ar Abertawe yn ystod tymor 1911–12. Gyrfa ryngwladol![]() Cafodd Owen ei gap gyntaf dros ei wlad mewn gêm fuddugol yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth 1901,[13] gêm sy'n nodedig am weld ymddangosiad cyntaf rhyngwladol Rhys Gabe hefyd.[14] Mae hirhoedledd Owen fel chwaraewr rygbi rhyngwladol yn dipyn o syndod o ystyried ei gorffolaeth main a thuedd pwyllgor dethol Undeb Rygbi Cymru i dorri a newid ffurfiad yr ochr genedlaethol byth a hefyd. Roedd Owen yn cael ei ystyried yn ddewis cyntaf gan y dewiswyr, ac roedd ei allu i chwarae gyda nifer o wahanol bartneriaid yn ei gadw yn y garfan. Er i Owen ennill pum Coron Driphlyg a bod yn gapten ar Gymru ar dri achlysur, fe’i cofir fwyaf fel aelod o dîm hanesyddol Cymru a gurodd y Crysau Duon gwreiddiol yn ystod taith Seland Newydd o Brydain ym 1905. Yn ystod y gêm yn erbyn y Crysau Duon, cefnogodd Owen ei saith blaenwr yn ddewr ond cymerodd ergyd drom gan bac Seland Newydd a arweiniodd iddo gael niwed i asen.[15] Yn ddiweddarach yn yr ornest byddai Owen yn cael ei gydnabod fel crëwr y symudiad a arweiniodd at Teddy Morgan yn sgorio'r unig gais ac ennill y gêm.[16] Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae [17]
Ymddeoliad a bywyd diweddarachPriododd Owen ym 1905 ag Hannah John o Ystum Llwynarth,[18] bu iddynt tair merch. Ymddeolodd Owen o rygbi rhyngwladol, yn 34 oed, ym 1912 mewn buddugoliaeth o 21-6 [19] erbyn yr Alban, gan chwarae’n briodol ar Faes St Helen yn Abertawe. Cafodd Owen y gapteniaeth ar gyfer yr ornest hon ac ar ôl y chwiban olaf cafodd ei gario o'r cae ar ysgwyddau ei gyd chwaraewyr.[20] Ymddeolodd o rygbi clwb y flwyddyn ganlynol pan adawodd Glwb Rygbi Abertawe ym 1913. Fel gwnaeth llawer o bobl chwaraeon ei gyfnod daeth yn dafarnwr ar ôl ymddeol o rygbi. Bu'n cadw tafarn y Nag's Head, Glandŵr. Roedd Owen wedi bod yn ddioddef o iselder am beth amser. Cafwyd hyd i'w gorff yn crogi yn y dafarn gan un o'i ferched ym 1932. Cafwyd rheithfarn o hunan laddiad.[4][2] Roedd yn 55 oed.
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia