Watcyn Thomas
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru oedd Watcyn Thomas (16 Ionawr 1906 – 10 Awst 1977). Bu'n chwarae tros Gymru rhwng 1927 a 1933. Roedd yn chwarae fel wythwr. Ganed yn Llanelli, ac addysgwyd ym Mhrifysgol Abertawe. Pan oedd Yn Ysgol y Sir, Llanelli, ef oedd capten cyntaf tîm rygbi Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1924. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli, cyn symud i Abertawe yn Rhagfyr 1927. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth, a symudodd i St Helens yn 1929 i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Cowley. Yn y cyfnod yma, bu'n chwarae rygbi i Waterloo a Swydd Gaerhirfryn; ef oedd capten Swydd Gaerhirfryn pan enillsant y bencampwriaeth yn 1934-35. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1927, yn dilyn perfformiad gwych dros Lanelli yn erbyn tîm y Maori o Seland Newydd. Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1931, chwaraeodd am 70 munud, a sgoriodd gais, gyda phont ei ysgwydd wedi torri. Ef oedd y capten pan gurwyd Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf yn 1933. Yn dilyn y gêm yn erbyn Iwerddon yr un flwyddyn, bu ffrae rhyngddo a'r dewiswyr. Roedd y dewiswyr wedi dewis prop fel blaenasgellwr a blaenasgellwr fel prop ar gyfer y gêm yma. Anwybyddodd Thomas hyn, a chwaraeodd y ddau yn eu safleoedd arferol. O ganlyniad, ni chafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru eto. Yn 1936 symudodd i Birmingham i ddusgu yn Ysgol y Brenin Edward, a bu farw yno yn 1977. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia