Sir Ddinbych (etholaeth seneddol)
Roedd Sir Ddinbych yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885. HanesO dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Etholaeth sirol oedd Sir Ddinbych. Fel y rhan fwyaf o etholaethau Cymru ystyriwyd y sedd i fod o dan ddylanwad un teulu bonheddig, yn achos Sir Ddinbych Teulu Salusbury oedd yn cynrychioli'r sedd o'r cyfnod cynharaf. Pan ddaeth llinach teulu Salisbury Lleweni i ben aeth eu stadau a'u perchenogaeth ar etholaeth Sir Ddinbych yn eiddo i'r Wynniaid, gydag un o deulu Wynn o Wynnstay yn cynrychioli'r sedd bron yn ddi-dor o 1716 hyd 1885. O dan Ddeddf Diwygio’r Senedd 1832 cafodd nifer aelodau'r sir ei gynyddu i ddau aelod. Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu o dan Ddeddf Ail-ddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad seneddol 1885 pan holltwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod; Gorllewin Sir Ddinbych a Dwyrain Sir Ddinbych. Ffiniau'r sedd oedd y cyfan o'r hen Sir Ddinbych (1283-1974). Mae hanes cynnar cynrychiolaeth y sedd yn ddryslyd, gyda pheth anghytundeb yn y dogfennau Seneddol parthed pwy oedd yn cynrychioli'r Sir a phwy oedd cynrychiolydd y Fwrdeistref ac yn union pha John Salisbury oedd yr AS ar wahanol gyfnodau. Mae'n debyg mae John Salusbury (bu farw tua 1548)[1] Siôn y Bodiau, mab ieuengaf Syr Thomas Salusbury oedd yr AS cyntaf. Bu John Salusbury, gŵr cyntaf Catrin o Ferain yn AS y sir, a'r Syr John Salisbury, a oedd yn barddoni yn Saesneg, hefyd. Ond mae gweithio allan dyddiau eu gwasanaeth, a gwahaniaethu rhyngddynt, o ran gwasanaeth Seneddol, bron yn amhosibl.[2] Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832
Aelodau Seneddol 1832-1885
EtholiadauEnwau mewn ysgrifen trwm wedi eu hethol Etholiadau yn y 1830au
Etholiad cyffredinol 1837 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.[4] Etholiadau yn y 1840auBu farw Syr Watkin ym 1840 a chafodd ei olynu gan ei nai Yr Anrhydeddus Hugh Cholmondeley ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad. Ymddiswyddodd Cholmondeley ym 1841 a chafodd ei olynu gan ei gefnder Syr Watkin Williams-Wynn arall ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad. Etholiad cyffredinol 1841 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.
Etholiadau yn y 1850au
Etholiad cyffredinol 1857 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr Etholiad cyffredinol 1859 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr Etholiadau yn y 1860auEtholiad cyffredinol 1865 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr
Etholiadau (diwrthwynebiad) y 1870au a'r 1880auNi fu etholiad cystadleuol yn Sir Ddinbych ar ôl un 1865. Etholiad cyffredinol 1874 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr. Etholiad cyffredinol 1880 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr. Bu Syr Watkin marw ym 1885 fe'i olynwyd ar 27 Mai 1885 gan Syr Herbert Lloyd Watkin Williams Wynn yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr. Cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym mis Ebrill 1885, pan ddiddymwyd yr etholaeth. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia