Fe barhaodd Richard Richards i fod yn AS Geidwadol diwrthwynebiad yn etholiadau 1841 a 1847. Yn etholiad 1852 etholwyd William Watkin Edward Wynne yn AS Ceidwadol heb wrthwynebiad.
Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur penderfynodd y sgweieriaid Ceidwadol i beidio a sefyll ymgeisydd yn etholiad 1868 ac etholwyd David Williams, Castell Deudraeth, yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Fe barhaodd Meirionnydd fel sedd Ryddfrydol o 1868 i 1951
Etholiadau'r 1870au y 1880au a'r 1890au
Samuel Holland AS Meirion 1870-1885Henry RobertsonTom Ellis AS Meirion 1886-1899O.M.Edwards AS Meirion 1899-1900
Bu farw David Williams [3] yn Rhagfyr 1869 a chynhaliwyd isetholiad yn Ionawr 1870.
Nodyn: Er iddo gael ei ethol fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol fe ddaeth Henry Robertson yn Rhyddfrydwr Unoliaethol yn fuan ar ôl yr etholiad. Fe unodd y Rhyddfrydwyr Unoliaethol a'r Blaid Geidwadol mewn gwrthwynebiad i gefnogaeth Y Brif Weinidog Gladstone i ymreolaeth i'r Iwerddon. Fe drodd Morgan Lloyd at yr Unoliaethwyr hefyd, gan sefyll drostynt yn etholaeth Môn ym 1892 [4]
Bu farw Thomas Edward Ellis ar 5 Ebrill 1899. Etholwyd Owen Morgan Edwards i'w olynu yn ddiwrthwynebiad, safodd Edwards i lawr ar ddiwedd y tymor etholiadol heb geisio cael ei ail-ethol
Etholiadau 1900 - 1918
Osmond Williams
Dim ond un etholiad cystadlaeol bu yn y cyfnod yma.
Yn etholiadau 1900 a 1906 cafodd Arthur Osmond Williams, mab hynaf David Williams AS Meirionnydd rhwng 1868 a 1870, ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.[5]
↑Cynrychiolaeth Sir Feirionnydd Y Celt, 14 Awst 1885 [1] adalwyd 17 Mai 2015
↑James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8