Elis Prys (Y Doctor Coch)
Uchelwr o Blas Iolyn, ger Rhydlydan (Conwy heddiw ond yn Sir Ddinbych yn yr amser hwnnw) oedd Elis Prys (c.1512 - 1594). Roedd yn adnabyddus fel "Y Doctor Coch o Blas Iolyn" am ei fod yn gwisgo'r gown ysgarlad academaidd a gafodd ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caer-grawnt. BywgraffiadChwareodd y Dr Prys ran bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes yng ngogledd Cymru. Yn 1535 cafodd ei benodi gan Thomas Cromwell i oruwchwylio diddymu'r mynachlogydd yng Nghymru. Gwnaeth ei waith yn drwyadl a bu hynny yn achos sawl cwyn yn ei erbyn yn honni ei fod yn elwa'n bersonol o'r gwaith. Yn nes ymlaen, yn nheyrnasiad y breninesau Mari ac Elisabeth, bu'n Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd, ac yn Uchel Siryf Sir Ddinbych, Meirionnydd, Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Roedd Elis Prys yn noddwr hael i rai o brif feirdd y cyfnod. Adnewyddiodd Blas Iolyn tua'r flwyddyn 1560 a daeth yn gyrchfan poblogaidd er ei fod mor anghysbell. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled a Siôn Tudur. Roedd y bardd Tomos Prys (c.1564-1634) yn fab iddo. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia