Thomas Cromwell
Roedd Thomas Cromwell, Iarll 1af Essex (c.1485 – 28 Gorffennaf 1540) yn gyfreithiwr a gwladweinydd o Loegr a fu’n gwasanaethu Harri VIII fel ei Brif Weinidog rhwng 1532 a 1540. Yn 1540 dienyddiwyd ef ar orchymyn y Brenin. Roedd Cromwell yn un o gefnogwyr mwyaf dylanwadol a phwerus Diwygiad Lloegr. Roedd yn unigolyn hollbwysig wrth gynllunio sut i ddiddymu priodas y Brenin Harri VIII a Catrin o Aragon fel bod Harri yn medru priodi Anne Boleyn yn gyfreithlon. Methodd Harri gael sêl bendith y Pab i ysgaru Catrin yn 1534, felly cefnogodd y Senedd hawl y Brenin i fod yn Ben Goruchaf Eglwys Lloegr, a fyddai’n rhoi’r awdurdod iddo ddiddymu ei briodas ei hun. Byddai felly yn gallu ysgaru Catrin. Cromwell hefyd oedd yn gyfrifol am drefnu Diddymu’r Mynachlogydd, gan gynnwys llawer yng Nghymru.[1] O ganlyniad i hyn, cafodd llawer o lyfrau oedd ym mherchnogaeth y mynachlogydd eu dinistrio, sef llyfrau a ddisgrifiwyd fel rhai ‘pabaidd’ ac ‘ofergoelus’. Disgrifiwyd cau’r mynachlogydd fel y gyflafan waethaf erioed yn hanes llenyddol Lloegr. Oherwydd hynny, ni fu casgliad llenyddol ym Mhrifysgol Rhydychen nes rhoddodd Syr Thomas Bodley ei gasgliad i'r Brifysgol yn 1602.[2] Yn ystod ei esgyniad i bŵer, roedd Cromwell wedi denu llawer o elyniaeth ac felly wedi dod i wrthdaro â llawer o elynion - yn eu plith, Anne Boleyn.[3] Roedd Cromwell yn ffigwr allweddol ym mhenderfyniad y Brenin Harri i orchymyn dienyddiad Anne. Serch hynny, collodd ffafr y Brenin Harri, wedi iddo drefnu’r briodas aflwyddiannus rhwng y Brenin a’r dywysoges o’r Almaen, Anne o Cleves, sef pedwaredd priodas Harri. Roedd Cromwell wedi gobeithio y byddai’r briodas yn rhoi egni newydd i’r Diwygiad yn Lloegr, ond daeth y briodas i ben ar ôl chwe mis. Dienyddiwyd Cromwell ar Tower Hill, ar 28 Gorffennaf 1540 ar sail teyrnfradwriaeth a heresi. Yn ddiweddarach, dywedodd Harri VIII ei fod yn difaru colli ei Brif Weinidog.[4] Mae rhai haneswyr yn dadlau bod Thomas Cromwell wedi bod yn ddylanwad pwysig ar yrfaoedd gwleidyddion a gweinyddwyr pwysicaf teyrnasiad Elisabeth I - er enghraifft, William Cecil a Nicholas Bacon.[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia