John Jones, Maesygarnedd
Roedd John Jones, Maesygarnedd (1597 – 17 Hydref 1660) yn un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr. Bywgraffiad![]() Cafodd ei eni yn ffermdy Maesygarnedd (neu Maes y Garnedd) yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), yn fab i Thomas Jones. Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.[1] Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd. Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin. Fe'i dewiswyd yn gomisiynwr Taeniad yr Efengyl yng Nghymru. Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.[2] Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor gan wŷr y cadfridog George Monck yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660. Roedd Jones yn ŵr crefyddol iawn ac roedd yn gohebu a Morgan Llwyd a Vavasor Powell, a threfnodd i argraffu rhan o waith Morgan Llwyd yn Iwerddon. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia