Robert Myddelton-Biddulph
Roedd y Cyrnol Robert Myddelton-Biddulph (20 Mehefin 1805 - 21 Mawrth 1872) yn dirfeddiannwr Cymreig ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd yn Senedd y Deyrnas Unedig fel Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi a Sir Ddinbych[1] Bywyd Personol![]() Roedd yn fab hynaf Robert Biddulph o Ledbury Swydd yr Amwythig a Charlotte merch hynaf a chyd etifedd Richard Myddelton o Gastell ac Ystâd y Waun. Wedi marwolaeth ei dad daeth Robert iau yn sgweier y Waun. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen. Priododd Fanny ail ferch William Mostyn Owen o Woodhouse, Croesoswallt bu iddynt dau fab a thair merch.[2] Gyrfa CyhoeddusBu ymgais cyntaf Myddelton-Biddulph i gyrraedd y Senedd yn etholiad Cyffredinol 1826. Yn y dyddiau hynny doedd yna ddim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis Aelod Newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf; mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Roedd Robert wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll, wedi cyhoeddi datganiad etholiadol ac wedi mynd ati i ymgyrchu’n frwd dros achos y Chwigiaid gyda phob rhagolwg yn awgrymu ei fod am ennill. Er mwyn rhwystro'r ymgyrch penderfynodd Thomas Fitzhugh y Tori o Uchel Siryf i alw'r etholiad ar 12fed Mehefin, wythnos cyn y byddai Myddelton-Biddulph yn 21 oed ac yn gymwys i sefyll. Safodd fel ymgeisydd dros fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1830 gan ennill y sedd yn ddiwrthwynebiad. Yn etholiad cyffredinol 1832 fe safodd yn etholaeth Sir Ddinbych gan gipio'r ail sedd. Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr ym 1835. Wedi cyfnod o ymatal rhag cystadlu etholiadau safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Ddinbych yn etholiad Cyffredinol 1852 gan gadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad cyffredinol 1868. Gan fod Sir Ddinbych yn etholaeth a oedd yn dychwelyd dau aelod i'r Senedd penderfynodd y blaid i sefyll dau ymgeisydd ym 1868 yn yr obaith o ennill y ddwy sedd, ond nid felly y bu; cadwodd Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig y sedd gyntaf i'r Ceidwadwyr, daeth George Osborne Morgan yr ymgeisydd Rhyddfrydol newydd yn ail gan achosi i Myddelton Biddulph i golli ei sedd.[3] Yn ogystal â gwasanaethu fel AS bu Myddelton-Biddulph hefyd yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych o 1840 hyd ei farwolaeth. Bu yn Ynad Heddwch dros Swydd Henffordd yn Gyrnol ym Milisia Sir Ddinbych ac yn Aide de Camp i'r Frenhines Victoria[4] MarwolaethBu farw yn ei gartref yn Llundain 35 Grovesnor Place ym 1872 yn 66 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn Eglwys y Waun.[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia