George Osborne Morgan
![]() Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Syr George Osborne Morgan (8 Mai 1826 – 25 Awst 1897). Ganed ef yn Gothenburg, Sweden, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Amwythig a Coleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1853. Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych o 1868 hyd 1885, a thros etholaeth Dwyrain Sir Ddinbych o 1885 hyd ei farwolaeth. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Llandysilio-yn-Iâl. Roedd yn gyfrifol am gyflwyno'r Ddeddf Gladdedigaethau yn 1870, a basiwyd yn y diwedd yn 1880, yn rhoi'r hawl i gynnal unrhyw wasanaeth claddu Cristnogol ym mynwent y plwyf. Cododd hyn o'r digwyddiadau yn angladd Henry Rees yn 1869. Roedd hefyd yn gyfrifol am Ddeddf Mannau Addoli (Safleoedd) a basiwyd yn 1873. Roedd yn gefnogwr i fesur Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ac i Goleg Prifysgol Aberystwyth.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia