Samuel Moss
Roedd Ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss MA BCL (13 Rhagfyr 1858 – 14 Mai 1918) yn wleidydd a chyfreithiwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Sir Ddinbych rhwng 1897 a 1896 ac fel Barnwr Llys Sirol Gogledd Cymru a Chaer o 1906 hyd ei farwolaeth.[1] Bywyd personolGanwyd Moss yn Yr Orsedd, Sir Ddinbych yn fab i Enoch Moss. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Wigan a Choleg Caerwrangon, Rhydychen. Dechreuodd fel myfyriwr yn Rhydychen yn 16 mlwydd oed, graddiodd yn BA gydag anrhydedd mewn rhethreg ym 1878. Ym 1880 enillodd gradd BCL (Baglor y Gyfraith Gyffredin) a gradd MA ym 1882.[2] Priododd Eleanor Bythell Samuel, merch hynaf E. B. Samuel, the Darland, Yr Orsedd, ym 1895.[3] Bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.[1] GyrfaDerbyniwyd Moss yn aelod o Lincoln's Inn ym 1877 ac fe'i galwyd i'r Bar ym 1880. Am dair blynedd bu'n athro yn dysgu'r clasuron yn y Coleg Eingl-Americanaidd yn Nice, Ffrainc.[2] Ym 1883 ymunodd fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Caer a Gogledd Cymru, ond bu iechyd gwan yn ei rwystro rhag cyflawni unrhyw waith cyfreithiol am bedair blynedd. Ym 1887 penodwyd Moss yn Gomisiynydd Ffiniau Cynorthwyol o dan Ddeddf Ffiniau Llywodraeth leol, gyda chyfrifoldeb am bennu ffiniau Cynghorau Sir Newydd Cymru [4] a ffiniau undebau deddfau'r tlodion.[5] Gyrfa WleidyddolWedi ffurfio'r cynghorau sir newydd ym 1888 safodd Moss fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn ward Burton ar Gyngor Sir Ddinbych. Safodd y Capten Griffith Boscawen dros y Ceidwadwyr gan gipio'r sedd o 149 bleidlais, mwyafrif o 16 dros 133 pleidlais Moss [6]. Er gwaethaf iddo golli'r etholiad fe'i penodwyd i'r Cyngor Sir fel henadur (cynghorydd nad oedd angen ei ethol). Etholwyd Thomas Gee yn gadeirydd y cyngor gyda Moss yn ddirprwy iddo. Pan ymddeolodd Gee o'r gadair ym mis Mawrth 1893 dyrchafwyd Moss yn gadeirydd yn ei le.[7]. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Tref Caer o 1894. Wedi marwolaeth George Osborne Morgan Aelod Seneddol Dwyrain Sir Ddinbych, dewiswyd Moss i sefyll dros y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad dilynol. Llwyddodd i dal gafael ar y sedd i'w blaid gan ennill dros 65% o'r bleidlais. Cafodd ei ethol heb wrthwynebiad yn etholiadau 1900 a 1906. Ym mis Mai 1906 apwyntiwyd Moss yn ddirprwy barnwr Llys Sirol (llys man ddyledion) Gogledd Cymru a Chaer i ddirprwyo dros y barnwr Syr Horatio Lloyd a oedd yn sâl. Gan ei fod yn swydd llanw, caniatawyd i Moss parhau i fod yn Aelod Seneddol, ar yr amod nad oedd yn derbyn tâl am ei waith fel barnwr.[8]. Pan ymddeolodd Syr Horatio fel Barnwr dyrchafwyd Moss i'r Farnwriaeth lawn yn ei le a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd yn y senedd.[9]. MarwolaethBu farw yn ei gartref, Accre Hall, Llandegla ar ôl salwch hir yn 59 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Tegla, Llandegla.[11] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia