Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig
Gwleidydd Cymreig oedd Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig (22 Mai 1820 – 9 Mai 1885). Roedd yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych o 1841 hyd ei farwolaeth yn 1885 yn 64 oed. Deilwyd y sedd gan ei dad gynt, a'i daid a'i hen-daid, Watkin Williams-Wynn oedd eu henwau hwy i gyd hefyd. ![]() Bywyd PersonolRoedd Syr Watkin yn fab hynaf Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Henrietta merch Edward Clive, Iarll cyntaf Powys [1] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Ar 28 Ebrill 1852, yn Eglwys Saint James Llundain, priododd ei gyfnither Marie Emily Williams Wynne merch Henry Williams Wynne, Llysgennad Prydain yn Nenmarc[2] Gwasanaeth milwrolYm 1839 fe ymunodd a'r Life Guards fel canwr corn, cafodd ei ddyrchafu yn is-gapten ym 1842, ymadawodd a'r fyddin reolaidd ym 1843. Roedd yn Is-gyrnol yng Nghatrawd Iwmyn Sir Drefaldwyn o 1844 i 1877 ac yn Gyrnol anrhydeddus y gatrawd hyd ei farwolaeth. Roedd yn bennaeth Gwirfoddolwyr Reiffl Sir Ddinbych o 1862 hyd ei farwolaeth; roedd y gwirfoddolwyr yn cynnal gwersyll ymarfer flynyddol ar dir Syr Watcyn yn Wynnstay. ![]()
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia