Porth Sgiwed
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Porth Sgiwed neu Porthsgiwed;[1][2] hefyd Porth Ysgewin neu Porthysgewin (Saesneg: Portskewett). Enw person yw Ysgewin, sef tarddiad y gair; yr un gair ag ysgawen, mae'n debyg. Saif i'r de-orllewin o dref Cas-gwent. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,041. Ceir pen gollewinol Twnnel Hafren yn y gymuned yma. Uchben, mae Ail Groesfan Hafren yn cario'r draffordd M4. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer o Oes yr Haearn ac olion fila Rufeinig a theml Rufeinig. Ceir yma wrthgloddiau diweddarach hefyd, a godwyd, yn ôl traddodiad, gan Harold Godwinson wedi iddo oresgyn y rhan yma o Gymru ar ôl gorchfygu Gruffudd ap Llywelyn. Dywedir i Harold godi adeilad yma ar gyfer hela, ond i Caradog ap Gruffudd, brenin Gwent, ei ddinistrio yn 1065. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4] HanesYn ôl traddodiad, roedd prif lys Caradog Freichfras, brenin Gwent, yma yn y 6g. Crybwyllir y lle yn y gerdd Moliant Cadwallon o'r 7g fel "Porth Esgewin". Fe'i cofnodir yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[5] Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Cymru yn ymestyn o Borth Wygyr, yng ngogledd Ynys Môn, i Borth Ysgewin.
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia