Peter Fox
Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Peter Alan Fox OBE (ganwyd 24 Rhagfyr 1961). Mae wedi bod yn arweinydd Cyngor Sir Sir Fynwy ers 2008. Ym mis Mai 2021 cafodd ei ethol yn Aelod o'r Senedd (AS) dros etholaeth Mynwy. CefndirMae Fox yn cadw fferm yn Portskewett yn ne Sir Fynwy.[2] Mae'n gynghorydd sir Ceidwadol ar gyfer ward etholiadol Portskewett, ar ôl cael ei ethol gyntaf ym mis Mai 1999 a'i ailethol yn etholiadau dilynol 2004, 2008, 2012 a 2017.[3] Daeth Fox yn ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy[4] gan ddod yn arweinydd y cyngor wedi hynny ym mis Mai 2008 pan ddisodlodd y grŵp Ceidwadol yr arweinydd blaenorol, y Cynghorydd Andrew Crump.[5] Dyfarnwyd OBE i Fox yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2017, am ei wasanaethau i Ranbarth Prifddinas Caerdydd. Roedd wedi bod yn aelod o Fwrdd Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ac wedi hynny yn is-gadeirydd Cabinet Cysgodol Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. [6] Etholiad i'r SeneddSafodd Fox fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholiadau Cynulliad Cymru 2007 yn etholaeth Dwyrain Casnewydd [4] er iddo fethu ag ennill. Ym mis Mawrth 2021 dewiswyd Fox fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Mynwy, ar gyfer etholiadau Senedd 2021.[7] Roedd yr AS Ceidwadol ar y pryd, Nick Ramsay, wedi ei ddad-ddethol gan y blaid leol.[8] Enillodd Fox yr etholiad, ar 6 Mai 2021, gyda mwyafrif llaio 3,485. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia