Llanfihangel Troddi
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanfihangel Troddi[1] (Saesneg: Mitchel Troy).[2] Saif ger afon Troddi, dair milltir i'r de-orllewin o Drefynwy, heb fod ymhell o'r briffordd A40. Mae'r gymuned a'r plwyf yn cynnwys pentref Cwmcarfan. Mae Troy House, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, yn dyddio o tua 1680, ar safle adeilad cynharach. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4] GeirdarddiadDaw'r enw o Afon Troddi, sy'n llifo trwy'r pentref; yn 1148 yr enw oedd 'Troi', talfyriad o 'Troddi'[5]. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Mihangel; mae'n dyddio o'r 13g, 1208 yn ôl arysgrif ynddi. Roedd Adda o Frynbuga yn rheithor o 1382 hyd 1385. Ceir heneb yn dyddio'n ôl i sefydlu'r eglwys yma, sef Croes Llanfihangel Troddi.
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia