Llanddewi Nant Hodni
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Crucornau, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddewi Nant Hodni[1][2] neu Llanddewi Nant Honddu, weithiau Llanhonddu neu Llanhodni (Saesneg: Llanthony; weithiau Llantoni). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, tua 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll. Saif ar lan Afon Honddu, hanner ffordd i fyny cwm anghysbell Dyffryn Ewias, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r tirlun o gwmpas yn drawiadol am ei unigrwydd. Mae enw'r pentref yn cadw'r hen ffurf ar y gair "Honddu", sef "Hodni". Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4] HanesYn ymyl y pentref ceir adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, a sefydlwyd gan yr arglwydd Normanaidd William de Lacy, arglwydd Ewias Lacy, ar droad yr 12g. Ond cyn hynny roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. 'Llanantoni', a droes yn 'Llantoni' dros y blynyddoedd, oedd enw'r sefydliad Awstinaidd newydd, sy'n rhoi i'r pentref ei enw Saesneg heddiw (Llanthony). Tua 1890 cofnodir bod dros hanner trigolion y pentref yn siarad Cymraeg.[5] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia