Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010
![]() Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010, a adnabuwyd yn swyddogol fel Gemau Olympaidd y Gaeaf XXI, yn Vancouver, British Columbia, Canada, o 12 Chwefror 2006 tan 28 Chwefror 2010. Cynhaliwyd rhai o'r chwaraeon yn nhref cyrchfan Whistler, British Columbia ac ym maestrefi Vancouver Richmond, West Vancouver a'r University Endowment Lands. Trefnir y Gemau hyn a'r Gemau Paralympaidd gan Bwyllgor Trefnu Vancouver (Vancouver Organizing Committee neu VANOC). Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yw'r drydedd Gemau Olympaidd i gael ei chynnal yng Nghanada, a'r cyntaf yn nhalaith British Columbia. Y gemau a gynhaliwyd yng Nghanada yn flaenorol oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1976 ym Montreal, Quebec a Gemau Olympaidd y Gaeaf 1988 yn Calgary, Alberta. Yn ôl y traddodiad Olympiadd, codwyd y faner Olympaidd gan faer Vancouver, Sam Sullivan, yn ystod seremoni gloi Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino, yr Eidal, ar 28 Chwefror 2006, a bu'r faner yn cael ei harddangos yn Neuadd Dinas Vancouver tan seremoni agoriadol Gemau 2010. Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Lywodraethwr Cyffredinol Canada, Michaëlle Jean.[1] Cynigion a pharatoadau
Dewisodd Cymdeithas Olympaidd Canada ddinas Vancouver fel yr ymgeisydd Canadiaidd yn hytrach na Calgary, a oedd eisiau ail-westeio'r gemau, a Dinas Quebec a gollodd y cynnig Olympiadd ar gyfer Gemau 2002 ym 1995. Wedi'r rownd gyntaf o belidleisio ar 21 Tachwedd 1998, roedd gan cynnig Vancouver-Whistler 26 plaidlais, roedd 25 pleidlais dros Dinas Quebec a 21 dros Calgary. Cynhaliwyd yr ail rownd, sef y rownd derfynol o bleidleisio ar 3 Rhagfyr 198, rhwng y ddau brif gystadleuydd, ac enillodd Vancouver gyda 40 pleidlais i gymharu â'r 32 pleidlais a dderbyniodd Dinas Quebec. Felly, dechreuodd Vancouver baratoi eu cynnig a lobïo rhyngwladol. Newidiwyd nifer o'r rheolau yn ymwneud â'r broses cynigion ym 1999, wedi'r helynt llwgrwobrwyo a ddigwyddodd ym mhroses Gemau 2002 a enillwyd gan Salt Lake City (wedi hynny gofynnodd Dinas Quebec am tua $8 miliwn o iawndal am eu cynnig hwy a fethodd).[2] Creodd y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol Gomisiwn Gwerthuso a apwyntiwyd ar 24 Hydref 2002. Cyn cychwyn y broses cynigion ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2008, byddai dinasoedd yn aml yn hedfan aelodau o'r pwyllgor i'r ddinas gan roi taith o'r ddinas ac anrhegion iddynt. Arweiniodd y diffyg goruchwyliaeth a tryloywder at gyhuddiadau o gyfnewid arian am bleidleisiau. Cryfhawyd rheolau'r cynigion, gan wneud i'r broses ganolbwyntio yn fwy ar agweddau technegol y dinasoedd cais. Enillodd Vancouver y broses cynigion i westeio'r Gemau Olympaidd mewn pleidlais y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol ar 2 Gorffennaf 2003, yn 115fed Sesiwn y Pwyllgor a gynhaliwyd ym Mhrag, Gweriniaeth Tsiec. Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais gan Llywydd y PORh Jacques Rogge.[3] Bu Vancouver yn erbyn dwy ddinas arall ar y rhestr fer, sef PyeongChang, De Corea, a Salzburg, Awstria. Pyeongchang a enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y rownd gyntaf, pan gafodd Salzburg ei ddileu. Yn y rownd derfynol, pleidleisiodd pob un, heblaw dau, o'r aelodau a bleidleisiodd dros Salzburg, dros Vancouver. Hon oedd pleidlais agosaf y PORh ers i Sydney, Awstralia guro Beijing i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2000, o ond 2 pleidlais. Daeth buddugoliaeth Vancouver bron i ddwy flynedd wedi i gais Toronto ar gyfer Gemau olympaidd yr Haf 2008 golli i Beijing mewn pleidlais tirlithriad. Dywedodd llywodraeth British Columbia y buasent yn talu am uwchraddiad i'r Sea-to-Sky Highway ar gost o $600 miliwn er mwyn ymgymhwyso'r cynnydd yn y traffig rhwng Vancouver a Whistler. Gwariodd Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC) $16.6 miliwn yn uwchraddio cyfleusterau Cypress Mountain, sy'n gwesteio'r holl gystadlaethau arddull-rhydd (aerials, moguls, ski cross) ac eirafyrddio. Adeiladwyd pentrefi ar gyfer yr athletwyr yn Whistler a Vancouver a phrif ganolfan cyfryngau adeilad y gorllewin yng Nghanolfan Cynhadledd Vancouver yn Coal Harbour, ac un arall yn Whistler.[4] Agorwyd Canolfan Olympaidd/paralympaidd Vancouver yn Hillcrest Park flwyddyn ymlaen llaw ym mis Chwefror 2009, costiodd $40 miliwn i'w hadeiladu, yma cynhelir y cystadlaethau cyrlio. Cwblhawyd pob adeilad mewn pryd o leiaf blwyddyn cyn cychwyn y gemau yn 2010.[5][6] CostauAmcangyfrifwyd costau gweithredol Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn 2004, i fod yn $1.354 biliwn (doler Canadiaidd). Erbyn canol 2009, cyfrifwyd y byddai'n costio cyfanswm o $1.76 biliwn,[7] y rhan fwyaf o gronfeydd an-llywodraethol, trwy noddiadau ac arwerthiant hawliau darlledu yn bennaf. Daeth $580 miliwn gan y trethdalwyr i adeiladu neu adnewyddu cyfleusterau yn Vancouver a Whistler, disgwyliwyd i $200 miliwn gael ei wario ar ddiogelwch o dan arweinyddiaeth y Royal Canadian Mounted Police (RCMP). Datgelwyd yn ddiweddarach fod y gwir ffigwr hwnnw'n agosach at $1 biliwn, dros bum gwaith beth amcangyfrifwyd yn wreiddiol.[8] Erbyn dechrau mis Chwefror 2010, amcangyfrifwyd cyfanswm cost y Gemau i fod tua $6 biliwn, gyda $600 miliwn yn cael ei wario'n uniongyrchol ar westeio'r gemau. Amcangyfrifwyd y byddai'r buddion a'r elw i'r ddinas a'r dalaith, a godir fel canlyniad o gynnal y gemau, tua $10 biliwn, a dangosodd adroddiad Price-Waterhouse y byddai'r elw anuniongyrchol tua $1 biliwn.[9] Canolfannau![]() Mae rhai canolfannau, gan gynnwys y Richmond Olympic Oval, wedi eu lleoli ar lefel y môr, sy'n anaml ar gyfer Gemau'r Gaeaf. Gemau 2010 hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i gynnal eu seremoni agoriadol dan do. Vancouver yw'r ddinas mwyaf poblog i gynnal y gemau. Mae'r tymheredd yn Vancouver ym mis Chwefror ar gyfartaledd yn 4.8 °C (40.6 °F).[10] Cynhaliwyd y seremonïau agoriadol a cloi yn Stadiwm BC Place, a dderbyniodd adnewyddiadau gwerth $150 miliwn. Roedd y canolfannau cystadlu yn Vancouver Fwyaf yn cynnwys y Pacific Coliseum, Canolfan Olympaidd/Paralympaidd Vancouver, UBC Winter Sports Centre, Richmond Olympic Oval a Cypress Mountain. Cynhaliwyd y cystadlaethau hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL, ond gan na ganiateir noddi corfforedig ar gyfer canolfannau Olympaidd, ailenwyd yn Canada Hockey Place ar gyfer ystod y Gemau.[11] Derbyniodd waith adnewyddu gan gynnwys tynnu'r hysbysebu o wyneb yr iâ a throsi rhai o'r ardaloedd seddi i gymhwyso'r wasg.[11] Roedd y canolfannau cystadlu yn Whistler yn cynnwys y cyrchfan sgio Whistler Blackcomb, Parc Olympaidd Whistler a Canolfan Llithro Whistler. Cafodd defnydd egni y canolfannau Olympaidd ei ddilyn yn fyw am y tro cyntaf, gyda'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Casglwyd ddata'r egni o'r systemau mesur ac awtomeiddio adeiladau naw o'r canolfannau, a cafodd ei arddangos ar-lein drwy'r brosiect "Venue Energy Tracker".[12] MarchnataGorychwilwyd a dyluniwyd rhan fwyaf o brif symbolau'r gemau gan y diweddar gyfarwyddwr dylunio Leo Obstbaum (1969–2009), gan gynnwys y mascots, medalau a chynllun y ffaglau Olympaidd.[13] Datgelwyd logo Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 23 Ebrill 2005, ac enwyd yn Ilanaaq yr Inunnguaq. Ilanaaq yw'r gair Inuktitut am gfaill. Mae'r logo'n seiliedig ar gromlech Inukshuk, a adeiladwyd ar gyfer Pafiliwn y Northwest Territories yn Expo 86 a gafodd ei roddi i Ddinas Vancouver wedi'r digwyddiad. Erbyn hyn defnyddir fel tirnod ar English Bay Beach. Cyflwynwyd mascots Gemau Olympaidd a Paralympaidd y Gaeaf 2010 ar 27 Tachwedd 2007.[14] Ysbrydolwyd gan y creaduriaid traddodiadol First Nations, roedd y mascots yn cynnwys:
Miga a Quatchi oedd mascots y Gemau Olympaidd, Sumi oedd mascot y Gemau Paralympaidd. Sidekick oedd Mukmuk yn hytrach na mascot llawn. Cynhyrchodd y Royal Canadian Mint gyfres o ddarnau arian coffaol yn dathlu gemau 2010,[15] ac mewn partneriaeth gyda CTV, cafodd y cyhoedd gyfle i bleidleisio dros y Top 10 Canadian Olympic Winter Moments; a cafodd cynllunioau'n anrhydeddu'r tri uchaf eu ychwanegu at y gyfres o ddarnau arian.[16] Cafodd gêm fideo Vancouver 2010 wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd yn Vancouver ei ryddhau ar 12 Ionawr 2010 er mwyn hybu'r gemau. Darlledu a'r cyfryngauCafodd y Gemau Olympaidd eu darlledu'n fyd-eang gan nifer o ddarlledwyr teledu. Cafodd hawliau darlledu Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 eu gwerthu ynghyd â Gemau Olympaidd yr Haf 2012, felly roedd y darlledwyr yr un peth yn bennaf ar gyfer y ddau. Y darlledwr gwesteio oedd Olympic Broadcasting Services Vancouver, is-gwmni o uned ddarlledu mewnol newydd y PORh, yr Olympic Broadcasting Services (OBS). Gemau 2010 oedd y gemau cyntaf lle darparwyd y cyfleusterau darlledu gan yr OBS yn unig.[17] Cyfarwyddwr gweithredol Olympic Broadcasting Services Vancouver oedd Nancy Lee, cyn-gynhyrchydd a swyddog gweithredol gyda CBC Sports.[18] Cyfnewid y ffagl![]() Yn ôl traddodiad, dechreuodd y ffagl Olympaidd ei daith yn Olympia, Gwlad Groeg, safle'r Gemau Olympaidd cyntaf, a cludwyd i'r stadiwm yn y ddinas lle bydd y Gemau'n cael eu cynnal mewn pryd ar gyfer y seremoni agoriadol. Tanwyd fflam y ffagl ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 22 Hydref 2009.[19] Teithiodd o Wlad Groeg, dros Begwn y Gogledd i Arctig Uwch Canada ac ar draws y West Coast i Vancouver. Teithiodd y ffagl tua 45,000 cilometr ar draws Canada mewn 106 diwrnod, gan wneud hon y daith gyfnewid hiraf o fewn un gwlad yn yr hanes Olympaidd. Cludwyd y ffagl Olympaidd gan tua 12,000 o Ganadiaid gan gyrraedd 1,000 o gymunedau.[20][21] Roedd y cludwyr ffagl enwog yn cynnwys Arnold Schwarzenegger,[22] Steve Nash,[23] Matt Lauer,[24] Justin Morneau,[25] Michael Buble,[26] Bob Costas,[27] Shania Twain,[28] ac enwogion hoci gan gynnwys Sidney Crosby,[29] Wayne Gretzky,[30] a chapteiniau'r ddau dîm Vancouver Canucks a aeth i rowndiau derfynol y Cwpan Stanley: Trevor Linden (1994) a Stan Smyl (1982). Y gemauCyfranogwyr![]() Anfonwyd timau i'r gemau gan 82 Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol.[31] Cyfranogodd Ynysoedd Caiman, Colombia, Ghana, Montenegro, Pacistan, Periw a Serbia yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cytaf y flwyddyn hon. Dychwelodd Jamaica, Mecsico a Moroco i'r gemau hefyd, wedi iddynt fethu Gemau Olympiadd y Gaeaf 2006. Ceisiodd Tonga gyfranogi am y tro cyntaf gan anfon un cystadleuwr ar gyfer y gystadleuaeth luge, gan ddenu sylw'r wasg, ond cafodd ddamwain yn y rownd olaf o gymhwyso.[32] Cymhwysodd dau athletwr o Lwcsembwrg,[33] ond ni gymeront ran gan na gyrrhaeddodd un ohonynt y meini prawf a osodwyd gan y POC,[34] ac anafwyd y llall cyn i'r gemau ddechrau.[35]
ChwaraeonCystadleuwyd pymtheg o chwaraeon yng Ngemau Olympaidd 2010. Categoreiddwyd wyth fel chwaraeon iâ, sef: bobsled, luge, ysgerbwd, hoci iâ, sglefrio ffigur, sglefrio cyflymder, sglefrio cyflymder trac byr a cyrlio. Y tri chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon eira Alpaidd oedd: sgio Alpaidd, sgio arddull-rhydd a eirafyrddio. Y pedwar chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon Llychlyniadd oedd: biathlon, sgio traws gwlad, naid sgio a'r cyfuniad Llychlynaidd.
Cynhaliwyd seremonïau agoriadol a cloi ar gyfer y cystadlaethau a gategorieddwyd fel chwaraeon iâ (ac eithrio bobsled, luge ac ysgerbwd) yn Vancouver a Richmond. Cynhaliwyd seremonïau y chwaraeon Llychlynaidd yn Callaghan Valley i'r dwyrain o Whistler, a'r cystadlaethau sgio Alpinaidd ar Fynydd Mountain (Creekside) a'r cystadlaethau llithro (bobsled, luge ac ysgerbwd) ar Fynydd Blackcomb. Mynydd Cypress (a leolir yn Cypress Provincial Park yn West Vancouver) a westeiodd y sgio arddull-rhydd (awyrol, mogwl, a sgio traws gwlad), a'r eirafyrddio (hanner-peip, slalom mawr cyfochrog, ac eirafyrddio traws gwlad). Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i hoci iâ dynion a merched gael ei gynnal ar lawr sglefrio culach, maint NHL,[60] gan fesur 200 × 85 troedfedd (61 × 26 metr), yn hytrach na'r maint safonol rhyngwladol o 200 × 98.5 troedfedd (61 × 30 metr). Cynhaliwyd y hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL a ailenwyd yn Canada Hockey Place dros ystod y gemau. Arbedodd hyn $10 miliwn o gostau a buasai wedi bod yn gysylltiedig â adeiladu llawr sglefrio newydd, a galluogodd i 35,000 o wylwyr ychwanegol i fynychu'r cystadlaethau hoci iâ.[60] Ond mynegodd rhai gwledydd Ewropeaidd bryder y buasai'r penderfyniad hwn yn rhoi mantais i'r chwaraewyr o Ogledd America a fu wedi tyfu i fyny'n chwarae ar y lloriau llai.[61] Cafodd nifer o gystadlaethau eu crybwyll i gael eu cynnwys yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[62] Ar 28 Tachwedd 2006, pleidleisiodd Bwrdd Gweithredol y PORh, yn eu cyfarfod yn Coweit, i gynnwys sgio traws gwlad yn y rhaglen swyddogol.[63] Cymeradwywyd hyn yn ddiweddarach gan Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC).[64] Cafodd y cystadlaethau canlynol hefyd eu cynnig ond ni chawsant eu cynnwys:[65]
Daeth y mater o eithrio naid sgio merched o'r gemau i Goruchaf Lys British Columbia yn Vancouver rhwng 21–24 Ebrill 2009, a dyfarnwyd ar 10 Gorffennaf 2009 i eithrio naid sgio merched o Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[66] Gwadwyd y cais am apêl i Goruchaf Lys Canada ar 22 Rhagfyr 2009, a daeth hyn a unrhyw obaith y byddai'r cystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Vancouver yn 2010 i ben.[67] Er mwyn ceisio lleddfu effaith yr eithriad, gwahoddodd drefnwyr VANOC ferched o Ganada i gystadlu ym Mharc Olympaidd Whistler ar gyfer cystadlaethau eraill, gan gynnwys y Cwmpan Cyfandirol ym mis Ionawr 2009.[66] Mae ymdrch ar y gweill i gynnwys naid sgio merched yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi, Rwsia.[68] Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia