Gemau Olympaidd yr Haf 1928
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1928 (Iseldireg: Olympische Zomerspelen 1928), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r IX Olympiad rhwng 28 Gorffennaf a 12 Awst yn ninas Amsterdam, Yr Iseldiroedd. Roedd Amsterdam wedi gwneud cais i gynnal Gemau Olympaidd 1920 a 1924 ond wedio colli allan i Antwerp, Gwlad Belg ym 1920 ac i Baris, Ffrainc ym 1924. Y GemauCafwyd 2,883 o athletwyr - 2,606 o ddynion a 277 o ferched - o 46 o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn 14 o gampau gwahanol. [1] Cafwydd cystadlaethau athletau a gymnasteg i ferched am y tro cyntaf yn ystod y Gemau[2]. Caniatawyd i ferched gystadlu yn y 100 metr, 800 metr, naid uchel, disgen a'r 400 metr dros y clwydi ac oherwydd y diffyg cystadlaethau i ferched, gwrthododd merched athletwyr benywaidd o Ynysoedd Prydain a chystadlu.[3] Cafywd Fflam Olympaidd ei gynnau am hyd y Gemau am y tro cyntaf; traddodiad sydd yn parhau hyd heddiw ac am y tro cyntaf dechreuodd yr orymdaith o wledydd gyda Gwlad Groeg a gyda'r wlad oedd yn cynnal y gemau, Yr Iseldiroedd, yn olaf yn yr orymdaith, traddodiad arall sydd yn parhau hyd heddiw. Cafodd Yr Almaen wahoddiad i gystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf am y tro cyntaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth cael ei ddewis yn nhîm Polo dŵr Prydain Fawr daeth y Cymro, Paolo Radmilovic, y person cyntaf i gynrychioli Prydain mewn pum Gemau Olympaidd yr Haf[4]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia