Gemau Olympaidd yr Haf 1932
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1932, digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r X Olympiad rhwng 3 Gorffennaf a 14 Awst yn ninas Los Angeles, Unol Daleithiau America. Los Angeles oedd yr unig ddinas i wneud cais i gynnal y Gemau ac fe wanethpwyd y penderfyniad i gyflwyno'r gemau yn ystod 23in Sesiwn yr IOC yn Rhufain, Yr Eidal ar 9 Ebrill 1923. Y GemauAdeiladwyd Pentref Olympaidd pwrpasol am y tro cyntaf yn ardal Baldwin Hills yn ne Los Angeles ar gyfer athletwyr gwrywaidd. Lleolwyd yr athletwyr benywaidd yng ngwesty'r Chapman Park Hotel[1][2]. Defnoddiwyd podiwm am y tro cyntaf yng Ngemau'r Haf ar gyfer seremoni'r medalau. Roedd podiwm wedi ei ddefnyddio yn gynharach yn y flwyddyn yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid[3] Cynhaliwyd y Gemau yn ystod Dirwasgiad Mawr ac o'r herwydd cafwyd llai o wledydd yn gyrru timau i Los Angeles. Dim ond 37 o wledydd fu'n cystadlu o gymharu â'r 46 fu'n cystadlu yn Amsterdam ym 1928. Medalau i'r CymryLlwyddodd Valerie Davies, Cymraes o Gaerdydd i ennill medal efydd yn y 100m dull nofio ar y cefn ac yn y ras gyfnewid 4x100m dull rhydd.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia