Gemau Olympaidd yr Haf 1908
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1908, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddiwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynny gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin. Bu Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, perchennog Castell y Waun yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod. Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar y 7fed o Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Napoli ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Napoli, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau. ChwaraeonCystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Ystyriwyd nofio, plymio a polo dŵr fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn rhan o athletau a rhestrwyd dau ffurf o gôd pêl-droed cymdeithas a Rygbi'r Undeb gyda'i gilydd. Cystadlodd Cymru fel gwlad yn ei hawl ei hun yn y gystadleuaeth hoci gyda Tîm hoci cenedlaethol dynion Cymru yn dod yn drydedd ac ennill Medal Efydd. Cenhedloedd a Gyfranogodd![]() Roedd athletwyr yn cynyrchioli 22 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd. Gwnaeth yr Ariannin, Ffindir, Twrci, a Seland Newydd eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tîm Awstralasia. Cyfanswm MedalauDyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.
Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia