Cynhanes Cymru
Mae cynhanes Cymru'n ymestyn o wawr Hen Oes y Cerrig i Oes yr Haearn a dyfodiad y Rhufeiniaid i'r wlad. Roedd yr hinsawdd yn yr adeg yma'n gyfnewidiol, fel a fu erioed.[1] Oherwydd hyn, roedd y planhigion a'r ffawna hefyd yn newid a gallwn ddyfalu'r tymheredd ar unrhyw adeg yn ôl y planhigion a'r ffawna a oedd i'w gael ar yr adeg honno. Yn ystod y cyfnodau rhewlifol ymdebygai'r wlad i'r Arctig, gyda lefel y môr oddeutu 200 metr yn is nag y mae heddiw. Golyga hyn fod tir yn cysylltu'r ynys gydag Ewrop ac roedd Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Landudno yn dir isel. Yn ystod y cyfnodau cynnes (rhwng y rhewlifau) roedd Prydain yn ynys yn llawn o blanhigion a choed ac anifeiliaid hinsawdd cynnes. Ceir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):
Trosolwg o'r dystiolaethDyn cynharafMae'r dystiolaeth hynaf o fodolaeth dynol yn dod o Ogof Pontnewydd, Ddinbych, lle darganfuwyd gweddillion Neanderthal yn dyddio o 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd gerrig bwyell a ddefnyddiwyd gan Neanderthaliaid yn Ogof Coygan sy'n dyddio o 60,000 i 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd y bodau dynol homo sapien cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl.[2] Yn Ewrop a Phrydain mae'r homo sapiens cynharaf yn dyddio o tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[3] Mae enghraifft o ysgerbwd dyn Paeleolithig Goch yn Ogof Pen-y-Fai yn dyddio o tua 33,000-34,000 o flynyddoedd yn ôl.[4] Dyma'r enghraifft cynharaf o gladdiad seremonïol yng Ngorllewin Ewrop i gyd ac mae sawl galwad wedi bod i ddychwelyd y dyn coch yn ôl i Gymru o Loegr.[5][6] Mewnfudiad ffermwyr ~4000 C.C.Ymddangosodd diwylliannau Neolithig gyntaf ym Mhrydain tua 4000 CC. Cyflwynwyd amaethyddiaeth i Brydain gan ffermwyr cyfandirol. Mewn astudiaeath genetaidd, danghoswyd fod cysylltiadau rhwng pobl Neolithig Prydain a phobl Neolithig Iberia. Mae hyn yn awgrymu yr oedd pobl Neolithig Prydain yn ddisginyddion i ffermwyr Aegeaidd a ddaeth i Brydain drwy ddilyn arfordir Môr y Canoldir.[7] Adeiladwyd bedrodd Neolithig Pentre Ifan tua 4000 CC[8] a siambr gladdu yn Carnedd Hir Parc Cwm tua 3800 CC[9] ac adeiladau pren yn Llandygai sy'n dyddio o 3760-3620 CC.[10] Tua 700 mlynedd yn ddiweddarach, adeiladwyd Bryn Celli Ddu tua 3074-2956 a CC.[11][12] Mewnfudiad Celtaidd ~1000 C.CMae astudiaeth genetaidd hefyd yn cefnogi mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn ledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[13] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrian yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl on roedd rhain pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythoniaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[14] Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[15] Rhoddir ddarlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabd y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederaliaeth o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[14] Hen Oes y CerrigNi fu ynys Prydain erioed yn gyfan gwbwl dan rew: gorchuddiwyd y rhan fwyaf gan rewlifoedd sydd dros y blynyddoedd wedi dinistrio tystiolaeth bwysig o bobl - ond mae stribed cul o dir lle na chafwyd rhewlifau'n ymestyn rhwng Afon Hafren i Afon Trent.[16] Gwyddom i sicrwydd fod pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop a cheir tystiolaeth fod sawl grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar â 200,000-100,000 CP. Yn Ogof Bontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r 20 darn asgwrn yma'n hynod o bwysig ac yn gofnod o o leiaf 6 unigolyn. Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a'u preswylwyr paleolithig gan fod y rhewlifau wedi dileu yr olion eraill. Daw'r darganfyddiadau cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw ag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc). Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CP. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibynadwy am baentio ar furiau ogofâu. Yn Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno cafwyd hyd i offer wedi'u gwneud gan ddyn a oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl gan gynnwys asgwrn a charreg wedi'i siapio'n ofalus. Ceir safleoedd cyffelyb yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin (25,000 C.P.) ac Ogof y Lyncs yn Eryrys ble ceir gweddillion merch deg oed o 11,000 C.P. Ni cheir unrhyw olion o ddyn yng Nghymru rhwng 21,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n bosib nad oedd pobl yma. Ceir olion claddu yn Ogof Kendrick ym Mhen y Gogarth, fodd bynnag, sydd wedi'i ddyddio i tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl.[17] Oes Ganol y Cerrig
Fel yn achos gweddill gogledd-orllewin Ewrop, roedd Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig, o tua 9000 CC hyd tua 4000 CC, yn gyfnod sy'n gorwedd rhwng diwedd yr olaf o Oesoedd yr Iâ yn Ewrop a dechrau amaethyddiaeth. Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd Cymru i'w siâp presennol. Roedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant, sy'n perthyn i ddiwylliant Maglemosiaidd y cyfandir, gan yr arfer o wneud microlithiau (offer carreg bychain) a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ymhen gwaywffyn. Y ci oedd yr unig anifail domestig. Yn y cyfnod hwn, roedd yr hinsawdd yn gwella'n araf a'r tymheredd yn codi. Byddai'r amgylchedd yn adlewyrchu hyn. Tyfai coedwigoedd a diflannodd y mamothiaid olaf. Daeth pobl drosodd o'r cyfandir fesul dipyn, gan groesi'r pont tir rhwng Prydain ac Ewrop lle ceir Môr Udd heddiw. Roedd yr arfordir yn uwch nag y mae heddiw ac yn cynnig safleoedd deniadol i bobl. Bu rhywfaint o ymsefydlu yn y bryniau hefyd ac roedd bywyd ger yr arfordir yn haws. Defnyddiai pobl eu hoffer microlith - a oedd ymhell o fod yn gyntefig - i hela anifeiliaid a physgod. Ychydig iawn o olion pobl y cyfnod sydd wedi goroesi. Roedd eu trigfannau'n gysgodfeydd ac adeiladau pren ysgafn yn ôl pob tebyg, a byddent yn mudo'n aml i ddilyn preiddiau anifeiliaid neu hel bwydydd y môr yn ôl y tymor. Fel rheol dim ond drylliau bychain o gallestr wedi'u gwasgaru ar y llawr sydd i'w cael ond ceir olion mwy sylweddol mewn ambell ogof, e.e. Ogof Nana ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro. Nid yw'n amhosibl fod rhai o'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru yn dyddio o'r cyfnod hwn, yn arbennig y chwedlau am diroedd a foddwyd, fel Cantre'r Gwaelod. Oes Newydd y CerrigNodweddir y cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC, pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod. Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siambrau claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Ceir tri prif fath o siambrau claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siambrau claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar. Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrïoedd" yng Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr. Oes yr Efydd
Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial. Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Cawsant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen. Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gymharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siambrau claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomenni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethol unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn. Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon. O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngaerau cyntaf tua 800 CC.. Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwy cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae. Oes yr HaearnDechreuodd Oes yr Haearn yng Nghymru oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi ei talu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.
Yn o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o fryngaerau, er enghraifft Pen Dinas ger Aberystwyth a Tre'r Ceiri ar Benrhyn Llŷn. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw Castell Odo, bryngaer fechan ger Aberdaron, Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngaerau mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngaerau yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar. Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1943 wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel Diwylliant La Tène. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio. Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r Celtiaid, a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl. Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain yn 48 OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y Silwriaid a'r Ordoficiaid, ond erbyn tua 79 roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r Derwyddon. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig. SiartSiart gronolegol gyda chrynodeb o gynhanes Cymru.
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia