Bu farw yn iaith gyntaf ers 1974; fe'i hadfywiwyd gyda rhyw gant o siaradwyr,[1][2] gan gynnwys nifer fechan o blant sydd bellach yn siaradwyr brodorol,[3] a 1,823 o bobl (2.2%) yn dweud bod rhyw ddealltwriaeth o'r iaith ganddynt hwy[4] (2011)
Credir i'r Fanaweg gael ei chyflwyno i'r ynys gan ymsefydlwyr o Iwerddon yn y 4g neu'r 5ed O.C. Ymsefydlai llwythi eraill o Iwerddon mewn rhannau gorllewinol o Gymru a'r Alban yn yr un cyfnod. Mae mileniwm gyntaf ei bodolaeth yn dywyll. Does dim llenyddiaeth o'r cyfnod wedi goroesi a rhaid dibynnu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phersonol am ein gwybodaeth. Dim ond yn y 18g a'r 19eg y daw'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf i'r golwg (ac eithrio ambell arysgrifiad a chofnod byr) ar ffurf cyfieithiadau crefyddol, geiriaduron a gramadegau, yn ogystal â cherddi llafar a baledi â'i gwreiddiau yn yr 16g efallai.
Daeth y Fanaweg i ben fel mamiaith fyw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu farw siaradwr brodorol olaf y Fanaweg, Ned Maddrell, yn 1974, ond mae'r iaith wedi profi ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Fe'i siaredir gan rai cannoedd o Fanawiaid - rhai sydd wedi dysgu'r iaith o ddiddordeb, a rhai o'u plant yn ogystal. Agorwyd yr ysgol Fanaweg gyntaf, y Bunscoill Ghaelgagh, yn 2001 a ceir darpariaeth meithrin dan nawdd sefydliad Mooinjer veggey. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu. Yn ôl yr adferwr iaith, Brian Stowell, dechreuodd yr adfywiad mewn Manaweg wedi i'r olaf o'r siaradwyr cynhenid farw yng nghanol yr 20g gan bod ganddyn nhw agwedd mor negyddol at yr iaith.[5]
Treigladau
Fel pob iaith Celtaidd, ceir treigladau.[6] Mae ganddi ddau dreiglad: boggaghys (math o dreiglad meddal) a stronnaghys (math o dreiglad trwynol). Mae dau fath o boggaghys i'w gweld mewn sefyllfoedd gwahanol. Dydyn nhw ddim yn gweithio fel treigladau'r Gymraeg.
↑Mae treiglad boggaghys yr math cyntaf ar ôl daa. Mae jeig yn treiglo i yeig hefyd.
↑Dydy "daa" a "jees" ddim yn ffurfiau benwyaidd a gwrywaidd fel dau a dwy. Mae "daa" i'w weld efo enwau, a mae "jees" i'w weld ar ei ben ei hun neu efo rhagenwau. Er enghraifft, dywedwyd "nane, jees, tree, kiare, queig" am rifo, neu "honnick mee jees jeu" ("welais i ddau ohonyn"); ond "ta daa vac oc" (mae ganddynt dau fab).
↑Mae'r enw i'w weld rhwng un a jeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys yr ail fath. Er enghraifft, un chayt jeig yn lle un deg un o gathod neu unarddeg cathod.
↑Mae'r enw i'w weld rhwng daa a yeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys y math cyntaf. Er enghraifft, daa chayt yeig yn lle dwy gath ar ddeg neu deuddeg cath.
Mae ffurfiau lluosog i'w weld ar ôl llawer o rifau.
Does dim ffurf lluosog ar ôl un neu daa
Does dim ffurf lluosog ar ôl lluosrifau o 20+ (yn cynnwys 100, 1000 ac ati)
Fel arfer, does dim ffurf lluosog ar ôl mesurau: e.e. arian ac amser.
Arddodiaid
Fel yn y Gymraeg, gellir rhedeg arddodiaid Manaweg yn ôl y person. Mae ganddynt ansoddeiriau meddianol hefyd. Dyma ffurfiau ec ‘gan’, a'r ansoddeiriau meddianol yn italaidd: