Oes yr EfyddCyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd pan ddefnyddid y metel efydd oedd Oes yr Efydd a gamenwir yn ‘Yr Oes Efydd’ weithiau yn Gymraeg. Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn. Mae efydd yn aloi o gopr. Arfau rhyfel ac offer ydyw'r rhan fwayf o olion y cyfnod hwn, ond mae nifer o arteffactau defodol wedi goroesi hefyd. Oes yr Efydd ym MhrydainMae'n debyg y dechreuodd Oes yr Efydd tua 2200 CC a daeth i ben tua 700 CC. Yn ystod y cyfnod hwn daeth pobl newydd o gyfandir Ewrop i Brydain ac mewn canlyniad newidiodd diwylliant Prydain yn gymharol gyflym. Roedd yr hinsawdd yn gwaethygu ar yr un pryd â'r bobl yn y dyffrynnoedd yn magu anifeiliaid a gwelwyd twf yn yr economi. Ar yr un pryd cafodd llawer o goed eu cymynu. Daeth llawer o dun Ewrop o Gernyw a llawer o gopr o Gymru, yn bennaf o Ben y Gogarth. Yn ne Lloegr datblygodd diwylliant cyfoethog iawn, y diwylliant Wessex a daeth strwythr cymdeithas yn fwy cymhleth. Yn groes i'r arfer y Neolithig, gyffredin, cafodd pobl eu claddu'n unigol; cyn Oes yr Efydd roedd tuedd i'w claddu gyda'i gilydd. Gellir gweld olion o'r cyfnod hwn ym Moel Eithinen, un o Fryniau Clwyd. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia