Gwaunyterfyn
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Gwaunyterfyn. Weithiau defnyddir Parc Acton, enw'r parc mawr gerllaw, fel enw ar y gymuned hefyd. Ar un adeg roedd yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae wei ei lyncu gan dref Wrecsam; saif i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[1][2] HanesRoedd 'Plas Acton yn perthyn i deulu Jeffreys yn y 17g; yr aelod enwocaf o'r teulu oedd y barnwr George Jeffreys. Yn 1947 rhoddodd y perchennog, William Aston, y neuadd a'r parc yn rhodd i dref Wrecsam. Cafwyd hyd i gasgliad o bennau bwyeill a chelfi eraill ym Mharc Acton, a ystyrir y casgliad pwysicaf o gelfi o ddiwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd yng Nghymru. Credir eu bod yn defnyddio copr o fwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Enwyd arddull y celfi ar ôl Parc Acton. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia