Bronington
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bronington[1][2] ( ynganiad ). Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffin a Lloegr. Roedd y boblogaqeth yn 2001 yn 1,228. Dyddia'r eglwys o 1836; cyn hynny roedd yr adeilad yn ysgubor degwm. I'r de-ddwyrain o'r pentref, mae Plas Iscoyd, a adeiladwyd tua 1740 a'i ymestyn yn y 19g. I'r de o'r pentref, mae Fenn's Moss, ardal o fawnog sy'n ymestyn tros y ffin i Swydd Amwythig. Mae'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia