Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud
Llyfr plant gan Lewis Carroll a gyhoeddwyd ym 1865 yn wreiddiol yw Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (teitl gwreiddiol Saesneg: Alice's Adventures in Wonderland, y cyfeirir ato yn gyffredinol fel Alice in Wonderland). Mae'r stori yn sôn am ferch ifanc, Alys (Alice), sy'n cwympo i lawr twll cwningen i fyd ffantasi ("Wonderland") a boblogir gan greaduriaid anthropomorffaidd rhyfedd. Mae'r stori'n chwarae â rhesymeg a dyma sydd wedi cadw'r stori'n boblogaidd i oedolion a phlant fel ei gilydd.[1] Canmolir y llyfr fel un o enghreifftiau gorau'r genre dwli.[1][2] Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg, trosiad gan Selyf Roberts, gan Wasg Gomer ym 1982. Hanes![]() Cyhoeddwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg ym 1865, tair blynedd ar ôl i Charles Lutwidge Dodgson (Carroll) a Robinson Duckworth rwyfo mewn cwch ar y 4ydd o Orffennaf, 1862[3] ar Afon Tafwys gyda thair merch ifanc:[4]
Merched Henry George Liddell, is-ganghellor Prifysgol Rhydychen, a phrifathro Ysgol Westminster oedd y merched ifanc hyn. Dechreuodd y daith yn Folly Bridge ar bwys Rhydychen a gorffennodd mewn pentref bychan o'r enw Godstow. Yn ystod y daith, dywedodd Dodgson wrth y merched stori am ferch ifanc, a enwyd yn Alice ganddo, sy'n chwilio am antur. Mwynheuodd y merched y stori a gofynnodd Alice am gopi ysgrifenedig. Gorffennodd Dodgson ei lawysgrif Alice's Adventures Under Ground, gyda'i luniau ei hun, ar 26 Tachwedd 1864 a chyflwynodd y llyfr i Alice. Cyn i Dodgson gyflwyno'i lawysgrif i Alice, roedd yn paratoi'r llyfr i'w gyhoeddi a datblygodd y stori wreiddiol o 15,500 i 27,500 gair, sy'n cynnwys y penodau am Gath Swydd Gaer a Pharti Te'r Hetiwr Gwallgof. Ym 1865, cyhoeddwyd stori Dodgson dan yr enw Alice's Adventures in Wonderland gan "Lewis Carroll", gyda darluniadau gan John Tenniel. Gohiriwyd yr argraffiad cyntaf oherwydd gwrthwynebodd Tenniel safon yr argraffiad. Cyhoeddwyd argraffiad newydd ym mis Rhagfyr 1865. Gwerthodd yr argraffiadau i gyd allan yn gyflym. Roedd Alice yn rhyfeddod annwyl i oedolion a phlant. Roedd y frenhines Victoria a'r llenor Oscar Wilde ifanc yn rhai o'r darllenwyr cyntaf. Uchafbwyntiau cyhoeddi![]()
Argraffiad CymraegCynhyrchodd Selyf Roberts drosiad talfyredig ac eithaf ffurfiol ym 1953 yn Gymraeg. Ym 1982, bron i ddeng mlynedd ar hugain diweddarach, teimlai'r angen i'w ddisodli â throsiad llawn o'r newydd mewn arddull ystwythach. Wrth baratoi'r argraffiad modern, gwnaethpwyd ychydig o newidiadau i'r orgraff a'r gystrawen i gydymffurfio ag arferion cyfoes. Er enghraifft, newidiwyd p'le i ble; hwn'na i hwnna ac hon'na i honna; trowyd y cyplysnodau i bara-menyn a moch-gini i fylchau; newidiwyd ac ysgrôl i a sgrôl, ag a allai i ag y gallai.[5][6] Cymysgodd Roberts fesuriadau metrig ac ymerodrol yn anghyson braidd. Am gysondeb mewnol ac i adlewyrchu testun gwreiddiol Carroll yn well, adferwyd y mesuriadau ymerodrol, felly newidiwyd deugain centimedr i pymtheng modfedd a hanner metr i dwy droedfedd. Er mwyn pwysleisio'r ffaith mai cymeriad gwrywaidd yn amlwg yw'r Gwningen Wen yn nhestun Carroll ac mewn lluniau Tenniel, er bod cwningen yn enw benywaidd yn y Gymraeg, newidiwyd yr enw ar ddrws y Gwningen Wen o "C. WEN" i "GWYN GWNINGEN". Fel yn yr argraffiadau eraill o lyfrau Alys, mae'r cyhoeddwr (Evertype ers argraffiad 2010) wedi cadw at ddyluniad a ysbrydolwyd gan Annotated Alice Martin Gardiner.[5] Cyhoeddodd Evertype, cyhoeddwr sy'n arbenigo mewn cyfieithu llên glasurol Saesneg, y fersiwn Cymraeg yn 2010 ers iddo fod allan o brint am bum mlynedd ar hugain. Lleoedd
Ffilmiau
Gweler HefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia