Alice in Wonderland (ffilm 2010)
Ffilm ffantasi Americanaidd cyfarwyddwyd gan Tim Burton, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton ac yn serennu Mia Wasikowska, Johnny Depp, Helena Bonham Carter, Anne Hathaway, Crispin Glover, Michael Sheen, a Stephen Fry, rhyddhawyd gan Walt Disney Pictures, yw Alice in Wonderland. Estyniad o'r nofelau Alice's Adventures in Wonderland a Through the Looking-Glass gan Lewis Carroll yw'r ffilm,[4] a defnyddir ffilm ffilm-go-iawn ac animeiddiad 3D gyda'i gilydd. Yn y ffilm, mae Alice yn 19 oed a dychwela hi, trwy ddamwain, i Underland (meddylia Alice mai Wonderland yw'r enw lle), daeth hi i'r lle hwn dair blynedd ar ddeg yn flaenorol. Dywedir Alice ei bod hi'n yr unig un sy'n gallu lladd y Jabberwocky, creadur draig-esque a rheolir gan y Frenhines Goch sy'n brawychu'r trigolion Underland. Dywedodd Burton roedd y stori wreiddiol Wonderland am ferch sydd wedi crwydro o gwmpas a wedi cwrdd â chymeriadau od a does dim perthynas rhwng y stori a'i hun felly oedd ei eisiau creu stori yn hytrach na gyfres digwyddiadau. Sgriniwyd y ffilm yn gyntaf ar Chwefror 25, 2010 yn Odeon Leicester Square, Llundain. Rhyddhawyd y ffilm wedyn yn Awstralia ar 4 Fawrth 2010, yn yr UDA a'r DU ar Fawrth 5 2010 trwy IMAX 3D a Disney Digital 3D, yn ogystal â sinemâu traddodiadol. Treuliodd y Alice in Wonderland tair wythnos fel y ffilm rhif un yn America a Chanada a mae'n yr ail ffilm mwyaf llwyddiannus yn ariannol yn rhyngwladol, y chweched ffilm mwyaf llwyddiannus erioed.[5] Hefyd, y chweched ffilm i ennill mwy na $1 biliwn yw'r ffilm.[6] Cymeriadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia