Alan Rickman
Roedd Alan Sidney Patrick Rickman (21 Chwefror 1946 - 14 Ionawr 2016) yn actor Seisnig. Mae Rickman yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhannau Hans Gruber yn Die Hard ac fel Severus Snape yn y gyfres o ffilmiau Harry Potter. Mae ef hefyd yn enwog am ei rôl flaenllaw fel Siryf Nottingham yn ffilm lwyddiannus 1991, Robin Hood: Prince of Thieves ac yn fwy diweddar fel y Barnwr Turpin yn ffilm Tim Burton Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street. Yn 1995 enillodd Wobr Emmy a Gwobr Screen Actors Guild am ei bortread o Rasputin: Dark Servant of Destiny. Enillodd wobr BAFTA Award am ei ran yn y ffilm Robin Hood. Bu farw Rickman o ganser y pancreas ar 14 Ionawr 2016 yn 69 oed. Bydd ei ffilm olaf, yn lleisio cymeriad Absolem yn Alice Through the Looking Glass, yn cael ei lansio yn yr Unol Daleithiau ym Mai 2016. Bywyd cynnarGanwyd Rickman yn Acton, Llundain,[1][2] i deulu dosbarth gweithiol, yn fab i Margaret Doreen Rose (Bartlett) gwraig tŷ, a Bernard Rickman, gweithiwr ffatri.[3] Roedd ganddo linach Seisnig, Gwyddelig a Chymreig;[4] ganed ei fam yn Nhrefforest[5]. Roedd ei dad yn Babydd a'i fam yn Fethodist.[6][7] Roedd ei deulu yn cynnwys brawd hyn, David (g. 1944), dylunydd graffeg; brawd iau, Michael (g. 1947), hyfforddwr tennis; a chwaer iau, Sheila (g. 1950).[6][8] Aeth Rickman i Ysgol Gynradd Derwentwater yn Acton, ysgol oedd yn dilyn y dull addysgu Montessori.[9] Bu farw ei dad pan oedd yn wyth mlwydd oed, gan adael ei fam i fagu eu phlant yn bennaf ar ben ei hun. Fe briododd eto, ond ysgarodd ei lys-dad ar ôl tair mlynedd. "Roedd un cariad yn ei bywyd", meddai Rickman yn ddiweddarach amdani.[6] Roedd yn rhagori ar caligraffega pheintio dyfrlliw. O Ysgol Gynradd Derwentwater enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Latymer yn Llundain, lle wnaeth ymhel yn fwy a drama. Ar ôl gadael Latymer, fe fynychodd Coleg Celf a Dylunio Chelsea ac yna y Coleg Brenhinol Celf. Gyda'r addysg yma fe weithiodd fel dylunydd graffeg i bapur newydd y Notting Hill Herald, swydd yr oedd Rickman yn ystyried fel galwedigaeth mwy sefydlog na actio. "'Doedd ysgol ddrama ddim yn cael ei ystyried yn rhywbeth synhwyrol i wneud yn 18".[10] Ar ôl graddio, fe wnaeth Rickman a nifer o ffrindiau agor stiwdio dylunio graffeg o'r enw Graphiti, ond ar ôl tair mlynedd o fusnes llwyddiannus, fe benderfynodd ei fod am ddilyn trywydd actio yn broffesiynol. Fe ysgrifennodd i ofyn am glyweliad gyda'r Academi Frenhinol Celf Ddramatig (RADA),[11] a fynychodd rhwng 1972–74. Tra oedd yno, fe astudiodd Shakespeare ac yn cynnal ei hun drwy weithio fel gwisgwr i Syr Nigel Hawthorne a Syr Ralph Richardson.[12] Ffilmiau
Teledu
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia