Gwlad Hud
Lleoliad ffuglennol ar gyfer y llyfr plant Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud yw Gwlad Hud neu Wonderland. DaearyddiaethYn y stori, tanddaearol ydy Gwlad Hud, ac mae Alys yn ei chyrraedd trwy fynd i lawr twll cwningen, ar lan Afon Tafwys yn bosibl.[1] Nid yw Carroll yn enwi pa mor bell tanddaearol yw Gwlad Hud, ond mae Alys yn dyfalu a yw'n agos i ganol y ddaear neu'r cyferbwyntiau[2], lle dywed Alys "...rhaid imi ofyn iddyn nhw enw'r wlad. Os gwelwch yn dda, Ma'am, ai Seland Newydd ynteu Awstralia ydi'r lle yma?". Coediog yw'r wlad lle mae llawer o fadarch yn tyfu. Ceir gerddi a gynhelir a thai sylweddol, fel tai'r Dduges a'r gwningen. Mae gan Gwlad Hud arfordir, lle mae'r Crwban Ffug yn byw. LlywodraethRheolir y wlad yn unbenaethol gan Frenin a'r Frenhines y Calonnau sy'n gorfodi eu chwilod yn aml trwy archddyfarniadau'r gosb eithaf a phrofion ffug. Mae o leiaf un Dduges yng Ngwlad Hud. TrigolionMae prif boblogaeth Gwlad Hud yn cynnwys cardiau chwarae animeiddiedig: y teulu brenhinol (y Calonnau), gwŷr llys (Diemwntau), milwyr (Clybiau), a gweision (Rhawiau). Hefyd, mae llawer o anifeiliaid siarad. Ymhlith y cymeriadau sy'n cwrdd ag Alys yw:
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia