Esperanto![]() Yr iaith artiffisial fwyaf llwyddiannus a dylanwadol yw Esperanto. Mae ganddi fwy o siaradwyr nag unrhyw iaith artiffisial arall. Daw'r enw o'r ffugenw "Dr Esperanto", a ddefnyddid gan ddyfeisiwr yr iaith L. L. Zamenhof. Ystyr yr enw yn yr iaith Esperanto yw "yr un sy'n gobeithio". Iddew o Białystok a symudodd i fyw yn Warsaw oedd Zamenhof. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf ar yr iaith, "Unua Libro", yn 1887 ar ôl gweithio arni am ryw ddeng mlynedd. Nod Zamenhof oedd cynorthwyo pobloedd yr holl fyd i ddeall ei gilydd yn well. Nid oedd yn bwriadu i Esperanto ddisodli unrhyw iaith arall ond yn hytrach i fod yn ail iaith ryngwladol a niwtral Mae cefnogwyr Esperanto yn gweld dwy brif fantais i'r iaith. Maent yn honni ei bod yn hawdd iawn i'w dysgu, ac mae hyn yn amlwg. Nid yw'n perthyn i unrhyw grŵp cenedlaethol neu ethnig yn fwy nag i unrhyw grŵp arall. Mae pob iaith ryngwladol arall wedi lledaenu oddi wrth un grŵp ethnig (megis y Saeson a'r Americanwyr yn achos Saesneg, neu'r Ffrancod yn achos Ffrangeg). Geiriau
Adeiladu geiriauMae Esperanto yn iaith ddodiadol iawn sy'n defnyddio blaenddodiadau ac olddodiaidau wrth adeiladu geiriau er mwyn lleihau'r gwreiddiau gwahanol. Oherwydd ei natur dodiadol mae hi'n iaith reolaidd iawn. Er enghraifft, mae'r gwraidd "san-", sy'n golygu "iach", yn cynhyrchu amrywiaeth eang o eiriau gydag arddodiadau gwahanol; mae'r tabl canlynol yn cynnwys pigion ohonynt:
Gellir uno mwy nag un gwraidd hefyd. Er enghraifft, mae'r gwraidd naz- yn golygu "trwyn", ac mae'r gwraidd tru- yn golygu "twll", felly mae naztruo yn golygu "ffroen". Llyfrau Cymraeg ar Esperanto
Yr wyddor Esperantollythyren ynganiad a a b b c ts ("z" yn Almaeneg/Eidaleg) ĉ "ch" yn Saesneg d d e e f ff g g ĝ j h h ĥ ch i i j i byr/cytsain (fel yn "ia" / "mai") ĵ "j" yn Ffrangeg k c l l m m n n o o p p r r s s ŝ si ("sh" yn Saesneg) t t u w ŭ w cytsain (fel yn "naw", "tew") v f z "z" yn Saesneg Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia