Adnoddau naturiol Cymru
![]() Dŵr![]() Gyda’i dir mynyddig a digon o law, mae gan Gymru dignoedd o ddwr. Mae gan y wlad lawer o gronfeydd dynol ac mae Cmru'n allforio dŵr i Loegr yn ogystal â chynhyrchu pŵer trwy trydan dŵr. Mae’r grŵp mwyaf o gronfeydd dŵr, yng Nghwm Elan ac yn cynnwys Claerwen. Mae cyrff eraill o ddŵr yn cynnwys Llyn Tegid, Llyn Trawsfynydd, Llyn Efyrnwy, Cronfa Ddŵr Talybont a Llyn Brianne. Mae rhai o'r rhain yn lefydd poblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel hwylio, caiacio, beicio, pysgota a gwylio adar.[2] Mae tarddiad nifer o afonydd arwyddocaol ym mynyddoedd Cymru, gan gynnwys Afon Dyfrdwy, Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy, ac Afon Hafren ac mae gan bob un ohonynt bysgodfeydd sylweddol yn enwedig eogiaid a sewin . Ynni adnewyddadwyMae gwynt yn adnodd arall sydd gan Gymru yn helaeth. Mae "Gwynt y Môr" yn un o nifer o ffermydd gwynt alltraeth oddi ar arfordir Gogledd Cymru ac Ynys Môn, a dyma’r ail fferm wynt fwyaf o’i bath yn y byd.[3] Mae ffermydd gwynt eraill ar safleoedd mewndirol, ucheldir yn bennaf, ond nid oes un yn y parciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. [4] GloMae Maes Glo De Cymru yn ymestyn o rannau o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, i Flaenau Gwent a Thorfaen yn y dwyrain[5] ac mae Maes Glo Gogledd Cymru yn llai ac yn rhannu o Sir y Fflint a Sir Ddinbych.[6] Cloddiwyd llawer iawn o lo yng Nghymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, ac wedi hynny gostyngodd y stociau glo. Daeth y pyllau oedd yn weddill yn aneconomaidd wrth i lo tramor ddod ar gael am brisiau ise ac fe gaeodd y pwll dwfn olaf yng Nghymru yn 2008.[7] Mwynau metelBu'r haearnfaen ar hyd ymyl gogleddol Maes Glo De Cymru yn brysur cynhyrchu haearn ac roeddent yn bwysig wrth gychwyn y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru.[8] Cloddiwyd plwm, arian ac i raddau llai sinc yn ardaloedd ucheldirol afonydd Ystwyth a Rheidol ac ym mlaenddyfroedd Afon Hafren am ganrifoedd a chloddiwyd dyddodion llai hefyd ym Mhentre Helygain yn Sir y Fflint yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Roedd yna hefyd safleoedd mwynau yng Nghlwyd lle roedd plwm, arian ac weithiau sinc yn cael eu cloddio.[9] Roedd llawer o gopr yn cael ei allforio o Fynydd Parys ar Ynys Môn a oedd, yn ei anterth, y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd. Roedd copr wedi bod yn hysbys ac yn cael ei gloddio ers o leiaf yr Oes Efydd gyda mwynglawdd copr soffistigedig o'r Oes Efydd ar y Gogarth ger Llandudno.[10] Roedd gweithfeydd copr llai yn Eryri ac roedd diwydiant copr llewyrchus yno ers dechrau’r 1800au. Er y cawsont eu hecsbloetio, nid oes un o'r mwynau hyn yn cael ei gloddio ar raddfa fasnachol heddiw. [11] Carreg![]() Mae cerrig yn cael eu cloddio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae chwarela a chloddio llechi wedi bod yn ddiwydiant mawr yng Ngogledd Cymru. Roedd Chwarel Cilgwyn yn cael ei gweithio yn y 12g, ond yn ddiweddarach daeth Blaenau Ffestiniog yn ganolbwynt cynhyrchu.[12] Mae Chwarel y Penrhyn yn dal i gynhyrchu llechi, er ar lai o gapasiti o gymharu â’i hanterth, ac mae Ceudyllau Llechi Llechwedd wedi’u troi’n atyniad i ymwelwyr. [13] Mae nifer o'r rheilffyrdd a arferai gludo'r llechi i'r porthladdoedd wedi eu hadfer fel atyniadau twristiaid, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Talyllyn.[14] Olew a nwyMae gan Gymru rywfaint o botensial ar gyfer cynhyrchu olew a nwy ar y tir. Gellir cael nwy siâl trwy ffracio ac mae methan mewn gwythiennau glo heb ei gloddio, y gellir ei echdynnu. Ffynhonnell nwy bosibl arall yw hylosgiad tanddaearol o wythiennau glo i gynhyrchu syngas, sef cymysgedd o hydrogen, methan a charbon monocsid.[15] Amgylchedd naturiol![]() Mae gan Gymru lawer o ardaloedd gwarchodedig gan gynnwys tri pharc cenedlaethol: Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro . Mae ganddi bum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Penrhyn Gŵyr, Penrhyn Llŷn, a Dyffryn Gwy.[16] Môr ac arfordirOherwydd ei lleoliad yn wynebu cefnfor egnïol iawn, mae gan Gymru nifer o draethau tywodlyd, arfordir sy'n gyforiog o glogwyni môr ac amrediad llanw cymharol uchel mewn sawl ardal. Yn 2020 roedd gan arfordir Cymru 40 o draethau Baner Las, tri marina Baner Las ac un gweithredwr cychod Baner Las.[17] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia