Llyn Trawsfynydd
Mae Llyn Trawsfynydd yn gronfa ddŵr gerllaw pentref Trawsfynydd, Gwynedd, yng ngogledd Cymru (arwynebedd 4.8 km²). Crëwyd y gronfa trwy adeiladu argae ar draws Afon Prysor. Y pwrpas gwreiddiol oedd darparu dŵr ar gyfer cynhyrchu trydan yng ngorsaf drydan Maentwrog yn 1928. Yn nes ymlaen defnyddiwyd y llyn i ddarparu dŵr ar gyfer atomfa Trawsfynydd. Erbyn hyn nid yw'r atomfa yn cynhyrchu trydan mwyach, ac mae'n y broses o gael ei datgomisiynu, ond mae dŵr o'r llyn yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan ym Maentwrog. Mae pont droed gul yn croesi'r llyn yn y cornel de-ddwyreiniol, hanner milltir i'r gorllewin o'r A470. Mae'r bont ar agor i'r cyhoedd, er bod y llwybr cyhoeddus sy'n arwain ati yn dod i ben yn swyddogol ar lan y llyn. |
Portal di Ensiklopedia Dunia