Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai Gwyddoniadur Cymru: "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau Gwyn A. Williams, yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."[1]
Mae'n debyg i'r bobl Roma fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, Abram Wood neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Yr enw safonol arnynt yw'r Kale. Maent yn perthyn i'r Romanichal yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani. Bu'r dafodiaith Gymreig yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar Romani ac felly o deulu'r ieithoedd Indo-Ariaidd, mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Er iddynt parhau a'u bywyd crwydrol yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig o ran eu hethnigrwydd.
O'r 1890au ymlaen ymfudodd nifer o Eidalwyr i Gymru, ac ymgartrefodd mwyafrif ohonynt yn Sir Forgannwg a Chasnewydd. Bu nifer ohonynt yn berchen ar gaffis, parlyrau hufen iâ, a siopau pysgod a sglodion. Yn y Rhondda cafodd eu galw'n "Bracchis" ar ôl perchennog caffi o'r adeg gynnar o fewnfudo. Yn yr 21g mae niferoedd y mewnfudwyr o'r Eidal i Gymru yn is ond gwelir etifeddiaeth yr hen gymuned Eidalaidd yn y cyfenwau Eidaleg a'r caffis a bwytai sydd yn dal i gael eu perchen gan ambell teulu. Ymhlith y Cymry enwog o dras Eidalaidd mae'r actor Victor Spinetti, y paffiwr Joe Calzaghe, a'r arlunydd Andrew Vicari.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 3.4% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu hunain yn aelod o hil neu grŵp ethnig nad ydynt yn groenwyn, gan gynnwys 0.6% yn groenddu, 2.3 o dras Asiaidd, 0.3 yn Arabaidd, 0.2 o grwpiau ethnig eraill, ac 1% yn gymysg eu hil.
Ystadegau 2001
Mae'r tabl isod yn rhoi data Cyfrifiad 2001 ar gyfer ethnigrwydd yng Nghymru. Mae'r rhif yn y golofn "Poblogaeth" yn dynodi holl boblogaeth ardal y rhes honno; mae'r rhifau yn y colofnau eraill yn dynodi'r canran o'r boblogaeth a nododd dewis y golofn honno.[2]
Ardal
Poblogaeth
Gwyn
Cymysg
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
Du neu Ddu Prydeinig
Tsieineaidd neu grŵp ethnig arall
Y ganran o'r holl bobl sy'n adnabod eu hunain fel Cymry[3]
↑Doedd ffurflen y cyfrifiad ddim yn gofyn y cwestiwn hwn ac fe fu llawer o gwyno am hynny. Felly dyma'r canrannau o bobl a wnaeth ysgrifennu'r wybodaeth hon ar y ffurflen er nad oedd disgwyl iddynt wneud hynny.