Ystum Taf
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Ystum Taf (Saesneg: Llandaff North). Saif i'r gogledd-ddwyrain o Llandaf, caiff y ddau eu gwahanu gan Afon Taf. Lleolir ysgol iau Hawthorn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yma. GweinyddiaethLleolir ward Ystum Taf o fewn etholaeth seneddol Gogledd Caerdydd. Mae'r arffinio gyda wardiau Radyr a Morganstown i'r gogledd-orllewin; Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais i'r gogledd; Y Mynydd Bychan i'r gogledd ddwyrain; Gabalfa i'r dwyrain; Rhiwbeina a Llandaf i'r de-orllewin. CludiantMae Gorsaf reilffordd Llandaf yn gwasanaethu'r ardal, gyda gwasnaethau yn rhedeg i'r gogledd i Dreherbert, Merthyr Tudfil neu Aberdâr gan deithio trwy Radur a Phontypridd. Mae gwasanaethau yn teithio i Caerdydd Canolog i'r de, gan deithio trwy Heol y Frenhines. Mae gwasanaethau bws rheolaidd rhif 24 (Llandaf-Pontcanna-Caerdydd Canolog), a 25 (Yr Eglwys Newydd-Birchgrove-Gabalfa-Cathays-Caerdydd Canolog) yn cael eu rhedeg gan gwmni Bws Caerdydd. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia