Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal Llandaf, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (Saesneg: Bishop of Llandaff Church in Wales High School). Mae'n ysgol ar gyfer plant 11 i 18 oed, sy'n gwasanaethu ardal Caerdydd ac ardaloedd cyfagos, megis Bro Morgannwg, Pontypridd a Phen-y-bont. Er bod yr ysgol yn cael ei rheoli yn rhannol gan yr Eglwys yng Nghymru, mae disgyblion Cristnogol o enwadau eraill hefyd yn mynychu'r ysgol. Rhestrwyd yr ysgol yn 189fed ysgol orau ym Mhrydain yn 2002, yn seiliedig ar gyfleusterau a chanlyniadau arholiadau.[1] Dyma oedd yr ysgol wladol ail orau yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau yn 2007; gyda 89% o'r myfyrwyr yn llwyddo yn eu harholiadau. Y prifathro presennol yw'r Parchedig C.G. Hollowood, B.Ed., M.A, a gymerodd drosodd oddi wrth Dr. Leonard Parfitt yn 2002. Dolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia