Cathays
Ardal a chymuned yn ninas Caerdydd yw Cathays. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,538. Sefydlwyd Cathays ym 1875, ac mae llawer o'r tai yn dyddio o'r un cyfnod. Enw o’r Saesneg Canol yw, o’r ystyr “gwrychoedd neu gaeau lle ceir cathod gwyllt”, yn cyfateb i Saesneg Cyfoes cat = cath, a hay (gair hynafol neu dafodieithol) = gwrych; cae. Bu ar un adeg, yn Lloegr, heol o’r enw Cathay ym Mryste [1] , a hefyd yn Cheddar, Gwlad yr Haf, y mae heol o’r enw Cathay Lane. Nid oes unrhyw sail i esboniadau sydd yn dadansoddi’r enw fel enw Cymraeg, gyda’r gair “cad” fel elfen gyntaf. Gan ei bod yn agos i Brifysgol Caerdydd, ceir cyfartaledd uchel o fyfyrwyr yno. Mae Cathays yn cynnwys Parc Cathays, lle ceir pencadlys Senedd Cymru a nifer o adeiladau eraill sy'n perthyn i'r llywodraeth a'r brifysgol. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia