Rhiwbeina
Maestref a chymuned yng Nghaerdydd yw Rhiwbeina ( ynganiad ) (Saesneg: Rhiwbina). Mae'n ardal ffynianus yng ngogledd y ddinas a bu'n bentref ar wahân ar un adeg. Tua diwedd yr 11g, lladdwyd Iestyn ap Gwrgant, tywysog olaf Teyrnas Morgannwg, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn yr ardal. Cofir am y frwydr yn yr enw Rhyd Waedlyd, ar ffrwd fechan yn Rhiwbeina. Y GymraegYng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,433 (12.9%) o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,409 (12.8%).[1] Cynhelir gwasanaethu Cymraeg yng nghapel Methodistaidd Bethel. Bu capel Beulah (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) yn gapel Cymraeg yn perthyn i'r Annibynwyr, ond wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.[2] Bu Rhiwbeina yn gartref i nifer o unoligion amlwg yn y diwylliant Cymraeg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, R. T. Jenkins, Iorwerth C. Peate, Kate Roberts, a Rachel Thomas. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia