Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal yr Eglwys Newydd, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Saesneg: Whitchurch High School). Caiff ei redeg gan awdurdod addysg lleol Cardydd, ond mae wedi gwneud cais i'r Cynulliad i dderbyn statws ysgol sylfaenol. Y prifathro presennol ydy Mr Huw Jones-Williams.[2] Strwythur yr ysgolMae'r ysgol wedi ei rannu ar ddau ddau safle, y safle isaf ar Glan-y-Nant Terrace sy'n cael ei fynychu gan plant 11-13 oed (blynyddoedd 7 i 9), a phlant 14–18 oed (blynyddoedd 10 i 11 a'r chweched ddosbarth) yn mynychu'r ysgol uwch ar Penlline Road. Mae'n gwasanaethu ardal eang sy'n cynnwys Gabalfa, Llwyn Fedw, Coryton, Ystum Taf, Rhiwbeina a'r Eglwys Newydd. Roedd 2283 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2009, gyda 486 yn y chweched ddosbarth. Daeth 94% o gartrefi lle roedd Saesneg yn iaith gyntaf, ni ddaeth dim o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn iaith gyntaf ac ni allai unrhyw o'r disgyblion siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1] Datganiad cenhadaeth yr ysgol ydy "To be a caring, well ordered and successful community in which all individuals who come to learn and work here are able to develop their maximum potential”.[1] HanesBu dwy safle'r ysgol yn ysgolion arwahan ar un adeg, sef Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd ar Penlline Road ac Ysgol Uwchradd Sirol yr Eglwys Newydd ar Glan-y-Nant Terrace. Unwyd y ddwy ysgol ym 1970, pan ailstrwythrwyd addysg yn yr ardal gan yr awdurdod addysg lleol ar y pryd, sef AALl De Morgannwg. Cyn-ddisgyblion o nôd
Cyfleusterau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia