Rhod y Flwyddyn![]() Cylchred blynyddol o wyliau tymhorol yw Rhod y Flwyddyn. Dethlir hi gan nifer o wahanol grwpiau o baganiaid modern, ac mae Rhod y Flwyddyn yn nodi prif ddigwyddiadau haul y flwyddyn (yr heuldroeon a'r cyhydnosau) a'r pwyntiau canol rhyngddynt. Mae cynnwys dathliadau a themâu llên gwerin yn gyffredin gan baganiaid modern, weithiau heb ystyried ymarferion hanesyddol gwareiddiadau'r byd.[1] Datblygwyd Rhod y Flwyddyn gan baganiaid modern Prydain yng nghanol yr 20fed ganrif,[2] gan gyfuno'r pedwar digwyddiad haul ("dyddiau pentymor" neu "ddyddiau chwarter") a ddathlwyd gan yr Ewropeaid, â'r pedair gŵyl eraill ("dyddiau croes-chwarter") a ddathlwyd gan y Celtiaid Ynysig.[3] Nid yw bob traddodiad ym Mhaganiaeth fodern yn cytuno â'r union ddyddiad o bob dathliad, gan ystyried gweddau'r lleuad a'r hemisffer. Mae rhai Wiciaid yn defnyddio'r term Saesneg sabbat (/ˈsæbət/), neu sabat, i gyfeirio at bob gŵyl, gyda phob un o'r sabatau yn adain yn y Rhod.[4] TarddiadauRoedd gan wahanol grwpiau o baganiaid ar draws Ewrop hanesyddol weithgareddau gwyliau tymhorol. Yn Ynysoedd Prydain, roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn dathlu digwyddiadau'r haul (yr heuldroeon a'r cyhydnosau) yn bennaf, tra bod y Celtiaid Ynysig yn dathlu'r pedwar pwynt canol rhyngddynt.[5] I'r Galiaid, y pedair gŵyl Geltaidd oedd Calan Mai (1 Mai), Calan Awst (1 Awst), Calan Gaeaf (neu Samhain) (1 Tachwedd), a Chalan Chwefror (neu Imbolc) (1 Chwefror). Roedd llyfrau fel The Golden Bough (1890) gan James George Frazer yn hynod ddylanwadol wrth ganfod gwreiddiau paganaidd posibl gwahanol wyliau tymhorol Ewropeaidd. Archwiliodd The Witch-Cult in Western Europe (1921) gan Margaret Murray adroddiadau o'r treialon gwrachod yn Ewrop, gan gynnwys treial o 1661 o Forfar, yr Alban, lle yr honnwyd i'r wrach honedig, Issobell Smyth, gwrdd â gwrachod eraill "bob chwarter" adeg Gŵyl y Canhwyllau, neu Galan Chwefror, (2 Chwefror), Calan Mai, neu Rŵdmas, (3 Mai), Calan Awst (1 Awst), a Chalan Gaeaf, neu Ŵyl yr Hollsaint, (1 Tachwedd).[6] Honnodd The White Goddess (1948) gan Robert Graves fod, er gwaethaf Cristneiddio, parhaodd chylchredau cymdeithasol ac amaethyddol i fod yn bwysig a'u bod wedi cadw wyth gŵyl "system gwyliau Prydais hynafol", sef Calan Chwefror, neu Ddygwyl Fair y Canhwyllau, (2 Chwefror), Dygwyl Fair gyhydedd (25 Mawrth), Calan Mai (1 Mai), Canol Haf (24 Mehefin), Calan Awst (1 Awst), Gŵyl Fihangel (29 Medi), Calan Gaeaf (31 Hydref), a'r Nadolig (25 Rhagfyr).[7] Datblygwyd y gwyliau gan ddau draddodiad paganaidd ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif: cwfen Bricket Wood, grŵp Wicaidd a sefydlwyd gan Gerald Gardner, ac Urdd y Beirdd, Ofyddion, a Derwyddon, grŵp neo-Derwyddaidd a sefydlwyd gan Ross Nichols. Yn ôl llyfr cyntaf Gardner, y gwyliau Celtaidd oedd "noswyl Mai, noswyl Awst, noswyl Tachwedd (Calan Gaeaf), a noswyl Chwefror."[8] Y Pedwar Sabat MawrMae'r pedwar sabat mawr, sef y prif sabatau, neu'r sabatau tân, yn cynnwys:
Y Pedwar Sabat ChwarterMae'r pedwar sabat chwarter, sef yr heuldroeon a'r cyhydnosau, neu'r sabatau llai, yn cynnwys:
Cyfeiriadau
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia