Cwfen Bricket Wood

Bwthyn y Gwrachod yn 2006.
Agoslun o'r prif ddrws.
Golwg pen y bwthyn.
Bwthyn y Gwrachod, lle cyfarfu cwfen Bricket Wood i ddathlu'r sabatau a'r esbatiaid

Cwfen o wrachod Gardneraidd a sefydlwyd yn y 1940au gan Gerald Gardner yw cwfen Bricket Wood, neu cwfen Swydd Hertford.[1] Mae'n adnabyddus am mai dyma'r gwfen Gardneraidd gyntaf, er bod Gardner yn honni bod cwfen y New Forest eisoes yn bodoli. Ffurfiwyd y gwfen ar ôl i Gardner brynu llain yn y Fiveacres Country Club, clwb noethlymunwyr ym mhentref Bricket Wood, Swydd Hertford, de Lloegr, ac roedd y gwfen yn cyfarfod ar dir y clwb. Mae'r gwfen wedi bod yn annatod yn natblygiad hanes Wica.

Bu llawer o bobl bwysig a dylanwadol yn Wica ar un adeg yn aelodau o'r gwfen, gan gynnwys Dafo, Doreen Valiente, Jack Bracelin, Fred Lamond, Dayonis, a Lois Bourne. Mae'r gwfen yn weithredol hyd heddiw, er ei bod yn cadw cyfrinachedd a dim ond hyd at y 1970au y gwyddys ei hanes.[2]

Cyfeiriadau

  1. Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press. Page 289
  2. Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press. Chapter 11 and 12

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia