Bedydd WicaiddMae bedydd Wicaidd (Saesneg: Wiccaning) yn seremoni neu ddefod Wicaidd sydd yn gydweddol i fedydd Cristnogol ar gyfer babi lle'i gyflwynir i'r Duw a'r Dduwies am amddiffyniad. Mae bedyddiadau Wicaidd yn perthyn i Wica'n benodol, ond dethlir seremonïau tebyg o fewn crefyddau Neo-baganaidd eraill. Saenio (o'r hen Saesneg Sain, sydd yn golygu bendithio, cadw draw o ddylanwad drwg) yw'r enw a roddir i'r seremonïau tebyg hyn.[1] Y ddefodYn draddodiadol, mae'r Archoffeiriad a'r Archoffeiriades yn cyflwyno'r babi i'r Duw a'r Dduwies. Mewn cytundeb â'r pwysigrwydd a roddir ar ewyllys rhydd o fewn traddodiadau Wicaidd, nid oed dim disgwyl i'r babi ddilyn neu ddewis llwybr Paganaidd am ei hun pen ei fod yn heneiddio. Yn ystod y ddefod, mae'r rhieni'n cyflwyno'r babi i'r pum elfen a gofyn am eu bendith neu am ddiogelwch, ac fel arfer defnyddir llysenw hudol yn ogystal â'i enw go iawn.[2] Pan yw'r babi'n tyfu, mae'n gallu dewis enw Wicaidd am ei hun. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia