Witchcraft Today
Llyfr ffeithiol a ysgrifennwyd gan Gerald Gardner ym 1954 ydy Witchcraft Today. Yn y llyfr y mae Gardner yn nodi ei deimladau a'i gredoau parthed hanes ac ymarferion y cwlt gwrachod, gan gynnwys ei honiad am iddo gwrdd â gwrachod go iawn yn y Fforest Newydd yn Lloegr. Y mae'r llyfr hefyd yn ymwneud â'i ddamcaniaeth i Urdd y Deml hefyd ymarfer y grefydd,[1] a'r gred mewn tylwyth teg yn Ewrop yn tarddu o'r pigmïaid a'u bod yn byw ochr yn ochr â chymunedau eraill.[2] Erbyn hyn, un o brif destunau Wica, ynghyd â The Meaning of Witchcraft (1959), ydy'r llyfr hwn. Yn rhagair Witchcraft Today, ysgrifennodd Gardner:
Erbyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi, yr oedd Gardner yn ymarfer Wica ac wedi sefydlu ei gwfen ei hun o'r Cwfen Bricket Wood. Er hynny, ni ddywedai yn ei lyfr ei fod yn rhan o'r grefydd bryd hynny; honnai yn lle ei fod yn "anthropolegydd di-ddiddordeb".[3] Margaret Murray a ysgrifennodd gyflwyniad i'r llyfr; hithau oedd yn un o brif gefnogwyr ar ragdybiaeth y cwlt gwrachod, a hynny drwy ei lyfrau The Witch-Cult in Western Europe a The God of the Witches o'r 1920au a'r 1930au. Yn ei chyflwyniad, ysgrifennai:
Yn y llyfr, honnai Gardner bod bron i naw miliwn o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, gael eu lladd oherwydd yr erlidiau yn erbyn gwrachod yn Ewrop. Tardd y ddamcaniaeth hon gyda Matilda Joslyn Gage yn wreiddiol.[5] Bellach, y mae ysgolheigion yn amcangyfrif bod tua 40,000 a 100,000 a ddienyddiwyd yn enw ymarfer gwrachyddiaeth rhwng tua 1450 a 1750. Yn y llyfr mae saith llun; un o Gardner, un arall o gylch swynwr yn Amgueddfa Gwrachyddiaeth ac Hudoliaeth, cofeb i'r bobl a ddienyddiwyd yn yr erlidiau yn eu herbyn, dau lun o ystafelloedd yn yr amgueddfa, cerflun o'r duw corniog, a phaentiad o wrach wrywol.[6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia